Rhennir y duwiau a duwiesau Llychlynnaidd yn ddau dylwyth, yr Æsir a'r Vanir . Weithiau mae'r tylwythau'n cynnwys y jøtnar (cewri), ond nid yw'r llinell rhyngddynt yn eglur iawn. Fe dderbynnir yn fras, fodd bynnag, fod yr Æsir (yn cynnwys Óðinn, Þórr a Týr) yn dduwiau ymladdgar, tra fod y Vanir (Njørðr, Freyja a Freyr yn bennaf) yn dduwiau ffrwythlondeb. Roedd grwpiau amrywiol eraill o fodau dwyfol neu arallfydol, yn cynnwys y Tylwyth Teg , y corrod a'r jøtnar, yn dduwiau llai yn ôl pob tebyg, efallai â'u cyltau a'u cysegrfeydd eu hunain.
Y dduwies Sif
Y duwiau a'i swyddogaeth
golygu
Baldr (Phol ) - Duw harddwch, gwirionder, heddwch, a dadeni. Cymar: Nanna
Borr - Tad Óðinn , Vili a Ve . Cymar: Bestla
Bragi (Brego ) - Duw barddoniaeth. Cymar: Iðunn
Búri - Y duw hynaf, tad Borr .
Dagr - Duw'r dydd, mab Delling a Nótt .
Delling - Duw'r wawr a thad Dagr gan Nótt .
Eir - Duwies iacháu.
Forseti (Forasizo ) - Duw cyfiawnder, heddwch a gwirionder. Mab Baldr a Nanna .
Freyja (Frowa ) - Duwies cariad, rhuwioldeb, ffrwythlondeb ac ymladd. Cymar: Óðr
Freyr (Fro Ing ) - Duwies ffrwythlondeb. Cymar: Gerð
Frigg (Frick ) - Duwies priodas a mamolaeth. Cymar: Óðinn
Fulla (Volla ) - Llawforwyn Frigg .
Gefjun - Duwies ffrwythlondeb a'r aradr.
Hel (Hellia ) - Brenhines Hel , yr isfyd Llychlynaidd.
Heimdall (Iring , Rigr ) - Un o'r Æsir a cheidwad eu teyrnas, Ásgarð .
Hermóðr (Hermut ) - Mab Óðinn.
Hlín - Duwies cysur.
Hǫðr - Duwies y gaeaf.
Hœnir - Y duw mud.
Iðunn - Duwies ieuenctid. Cymar: Bragi .
Jǫrð (Erda ) - Duwies y Ddaear. Mam Þórr gan Óðinn .
Kvasir - Duw ysbrydoliaeth.
Lofn - Duwies cariad.
Loki - Twyllwr a duw drygioni a thân. Cymar: Sigyn (neu Saeter )
Máni - Duw'r lleuad.
Mímir (Mime ) - Ewythr Óðinn .
Nanna - Un o'r Ásynja , gwraig Baldr a mam Forseti .
Nerþus - Duwies y cyfeirir ati gan Tacitus . Cysylltir ei henw â Njørðr .
Njørðr - Duw y môr, y gwynt, pysgod, a chyfoeth.
Nótt - Duwies y nos, merch Narvi a mamAuð , Jørð a Dagr gan Naglfari , Annar a Delling , yn eu tro.
Óðinn (Wodan ) - Arglwydd yr Æsir. Duw doethineb a rhyfel. Cymar: Frigg .
Sága - Duwies dywell, efallai'n enw arall ar Frigg.
Sif - Gwraig Thor .
Sjøfn - Duwies cariad.
Skaði - Gwraig Njørð .
Snotra - Duwies pwyll.
Sol (Sunna ) - Duwies yr haul.
Þórr (Donar ) - Duw taranau a brwydro. Cymar: Sif .
Týr (Ziu , Saxnot ) - Duw rhyfel a chyfiawnder.
Ullr (Wulder ) - Duw sgïo, hela, a gornest. Mab Sif .
Váli - Duw dial.
Var - Duwies cytundebau.
Vé - Un o dri duw creawdwr. Brawd Óðinn a Vili .
Víðarr
Vili - Un o dri duw creawdwr. Brawd Óðinn a Vé .
Vør - Duwies doethineb.
Gylfaginning (35)
Skáldskaparmál (1)
Thula