Odin
Odin (Hen Norseg: Oðin) yw brenin y duwiau ym mytholeg y Llychlynwyr a'r bobloedd Almaenaidd. Mae ganddo un llygad yn unig ac mae'n cael ei hebrwng gan ei frain hud Hugin a Munir. Enw ei geffyl yw Sleipnir.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Norse deity, duw rhyfel, brenin y duwiau ![]() |
Label brodorol | Óðinn ![]() |
Aelod o'r canlynol | Æsir ![]() |
Enw brodorol | Óðinn ![]() |
![]() |

Y Dduwies Frigga yw gwraig Odin. Yn ôl rhai fersiynau o'i chwedl, mae'n dad i'r Duw Thor. Mae sillafiad ei enw yn amrywio. Roedd yr Almaenwyr/Almaenesau yn ei alw'n Wodan neu Wotan.
Roedd yn Dduw rhyfel, gwybodaeth a barddoniaeth ac yn meddu ar alluoedd hud a lledrith grymus. Mae'n noddi arwyr a rhyfelwyr ac yn eu hamddiffyn ar ôl eu marwolaeth, pan gaent eu hebrwng gan y Valkyriaid i Valhalla, neuadd Odin yn Asgard, cartref y Duwiau.
Roedd ei chwant am wybodaeth mor gryf nes iddo aberthu ei lygad de er mwyn yfed o ffynnon wybodaeth Mimir.
Ar ddiwedd y byd, bydd Odin yn arwain y Duwiau da yn erbyn lluoedd y fall ac yn ymladd â'r blaidd ofnadwy, Fenris, i amddiffyn Asgard.
Mae'r ffurf Hen Saesneg ar ei enw, Woden, i'w gweld o hyd yn yr enw Saesneg Wednesday ("dydd Woden").