Rhianedd Jewell
Ieithydd, awdur ac academydd yw Rhianedd Jewell.[1] (ganwyd 1985). Mae hi'n chwaer i'r Aelod Cynulliad Delyth Jewell
Rhianedd Jewell | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, ieithydd, academydd |
Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Rhianedd. Ar ôl cwblhau gradd BA mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg ac Eidaleg) ym Mhrifysgol Rhydychen, aeth Rhianedd ymlaen i gyflawni MSt a DPhil yno ym maes Eidaleg. Gweithiodd Rhianedd fel Lector Celtaidd Prifysgol Rhydychen cyn dechrau swydd ddarlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012. Ymunodd hi ag Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2013.
Cyhoeddwyd y gyfrol Her a Hawl Cyfieithu Dramâu - Saunders Lewis a Samuel Beckett gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 1786830949". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Rhianedd Jewell ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |