Rhidian

sant o'r 5ed neu'r 6ed ganrif

Roedd Rhidian (5g - 6g) yn sant cynnar o Gymro.

Rhidian
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Yn ôl Bucheddau'r Saint, cafodd ei addysg yng nghlas Sant Cenydd (amrywiad: Cynydd) yn Llangynydd, penrhyn Gŵyr. Sefydlodd eglwys yn Llanrhidian, tua 6 milltir i'r dwyrain o Langynydd, yng nghanol Gŵyr. Cysegrir eglwys Llanrhidian i sant Illtud, sy'n awgrymu cysylltiad posibl rhwng y Rhidian a choleg enwog Llanilltud Fawr.

Dywedir ymhellach fod Rhidian yn gyfoeswr â Macsen Wledig (sy'n annhebygol) a'i fod wedi troi Brynach Wyddel, brenin Brycheiniog, yn Gristion.

Cyfeiriadau golygu