Teyrnas Brycheiniog
teyrnas ym Mhowys
(Ailgyfeiriad o Brycheiniog)
Roedd Brycheiniog yn hen deyrnas Gymreig a'i chanol yn Nyffryn Wysg, a sefydlwyd gan feibion Brychan, ar dechrau y 6ed canrif, yn ôl traddodiad.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg, teyrnas |
---|---|
Daeth i ben | 1040s |
Label brodorol | Brycheiniog |
Dechrau/Sefydlu | 450s |
Rhagflaenwyd gan | Britannia |
Olynwyd gan | Teyrnas Deheubarth, Arglwyddiaeth Brycheiniog |
Enw brodorol | Brycheiniog |
Gwladwriaeth | Teyrnas Powys |
Rhanbarth | Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Yn yr Oesoedd Canol rhennid Brycheiniog yn dri chantref:
Cipiwyd Brycheiniog gan y Normaniaid dan Bernard de Neufmarché yn 1093 a chrëwyd Arglwyddiaeth Brycheiniog. Roedd hyn yn cynnwys bron y cyfan o'r hen deyrnas ac eithrio'r de-ddwyrain (Blaenllyfni) a darnau bychan eraill.
Gyda'r "Deddfau Uno" yn 1536, crëwyd Sir Frycheiniog.
Brenhinoedd Brycheiniog
golygu- Tudwal ap Anwn
- Tewdrig ap Tudwal
- Rhain Dremrydd ap Brychan (492-510)
- Rhigeneu ap Rhain (510-540)
- Llywarch ap Rhigeneu (540-580)
- Idwallon ap Llywarch (580-620)
- Rhiwallon ap Idwallon (620-650)
- Ceindrych ferch Rhiwallon gwraig Gwlyddien ap Nowy o Teyrnas Dyfed
- Caten ap Gwlyddien (670-690)
- Cadwgan Tredylig ap Caten (690-710)
- Rhain ap Cadwgan (710-730)
- Aust ap Cadwgan (730-735)
- Elwystl ap Aust (735)
- Tewdr ap Rhain (735-?)
- Nowy ap Tewdr neu Nowy ap Madog o Elfael, yn briod â Sannan ferch Elisedd
- Gryffydd ap Nowy (770-805)
- Tewdr ap Gryffydd I (805-840)
- Elisedd ap Tewdr (840-881)
- Tewdr ap Elisedd (881-890)
- Tewdr ap Gryffydd II (900-934)
- Gwylog ap Tewdr (934-?)
- Elisedd ap Gwylog ap Tewdr (?)
- Gryffydd ap Elisedd (?-1045)
- Selyf, Cantref Selyf
- Tewdos, Cantref Tewdos
- Einion, Cantref Talgarth
- Maenarch ap Selyf neu Maenarch ap Tryffin o Fferreg
- Bleddyn ap Maenarch (?-1093)