Rhigolau Bywyd
Cyfrol o straeon byrion gan Kate Roberts yw Rhigolau Bywyd a Storïau Eraill, a gyhoeddwyd yn 1929 gan Wasg Aberystwyth.[1] Dyma'r ail gyfrol o straeon byrion gan yr awdures, yn dilyn ei chyfrol gyntaf un, sef O Gors y Bryniau (1925), a'i thrydydd llyfr. Mae'r casgliad yn cael ei ystyried yn un o'r enghreifftiau gorau o grefft y stori fer yn Gymraeg. Fe'u lleolir yn ardal gogledd Arfon, bro enedigol yr awdures.
Mae Y Gwynt yn unigryw yng ngwaith Kate Roberts fel enghraifft o stori ysbryd. Mae'n llawn awyrgylch ac yn hiraethus-dyner yn hytrach nag arswydus.
Straeon
golyguCeir wyth stori yn y casgliad, sef:
- Rhigolau Bywyd
- Y Golled
- Rhwng Dau Damaid o Gyfleth
- Nadolig
- Y Gwynt
- Chwiorydd
- Meddyliau Siopwr
- Dydd o Haf
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Katie Gramich (15 Chwefror 2011). Kate Roberts. University of Wales Press. t. 111. ISBN 978-0-7083-2339-7. (Saesneg)
Llyfrau Kate Roberts | |
---|---|
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg |