Kate Roberts
Roedd Kate Roberts (13 Chwefror 1891 – 14 Ebrill 1985) yn llenor enwog yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn "Frenhines y stori fer".
Kate Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1891 Rhosgadfan, Cae'r Gors |
Bu farw | 14 Ebrill 1985 Dinbych |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, awdur plant |
Priod | Morris T. Williams |
Bywgraffiad
golyguKate Roberts oedd plentyn cyntaf Owen a Catrin Roberts. Roedd ei thad yn chwarelwr. Roedd ganddi hi ddwy hanner-chwaer a dau hanner-brawd hŷn o briodasau cyntaf ei rhieni (John Evan, Mary, Jane ac Owen) a thri brawd iau (Richard, Evan a David). Ganed hi yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan. Yn ddiweddarach byddai'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir hollbwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar. Mae ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal yn y cyfnod hwnnw. Prynodd Roberts Gae'r Gors yn 1965 a'i gyflwyno i'r genedl, ond nid oedd digon o arian i'w adfer ar y pryd. Nis adferwyd tan 2005 ar ôl brwydr hir i'w ariannu, ac mae erbyn hyn o dan ofal Cadw ac yn amgueddfa i'r awdures.
Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Gaernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones ac Ifor Williams. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera, De Cymru (1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28). Derbyniodd doethuriaeth er anrhydedd yn 1950 gan Brifysgol Cymru.
Priododd Kate Roberts a Morris T. Williams (g. 1900), argraffydd, yn 1928. Gyda'i gilydd, roeddent yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych. Bu ei gŵr farw ym 1946, a bu'n rhedeg Gwasg Gee am 10 mlynedd ar ei phen ei hun. Yn ei lyfr, Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985, awgryma Alan Llwyd fod gan Roberts dueddiadau hoyw.[1]
Ei gwaith llenyddol
golyguYn ei blynyddoedd cynnar fel llenor ysgrifennai nofelau a storïau byrion am dlodi a chaledi ardal y chwareli yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach, ar ôl symud i Ddinbych a phriodi, troes at ysgrifennu nofelau a straeon mwy seicolegol gydag unigrwydd yn thema amlwg ynddynt. Cyfieithwyd rhai o'u gweithiau i'r Saesneg ac i ieithoedd eraill.
Llyfryddiaeth
golyguGwaith Kate Roberts
golygu- O Gors y Bryniau (1925). Storïau byrion.
- Deian a Loli (1927). Nofel fer.
- Rhigolau Bywyd (1929). Storïau byrion.
- Laura Jones (1930). Nofel fer.
- Traed Mewn Cyffion (1936). Nofel.
- Ffair Gaeaf (1937). Storïau byrion.
- Stryd y Glep (1949). Nofel fer.
- Y Byw sy'n Cysgu (1956). Nofel.
- Te yn y Grug (1959). Storïau byrion.
- Y Lôn Wen (1960). Atgofion bore oes.
- Tywyll Heno (1962). Nofel fer hir.
- Hyn o Fyd (1964). Straeon.
- Tegwch y Bore (1967)
- Prynu Dol (1969). Storïau byrion.
- Dau Lenor o Ochr Moeltryfan (Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes 1970)
- Gobaith a Storïau Eraill (1972). Storïau byrion.
- Yr Wylan Deg (1976). Storïau byrion.
- Haul a Drycin (1981). Storïau byrion.
Astudiaethau a llyfrau eraill
golygu- Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych: Gwasg Gee, 1969)
- Derec Llwyd Morgan (gol.), Bro a Bywyd: Kate Roberts 1891-1985 (Cyhoeddiadau Barddas, 1981)
- Dafydd Ifans (gol.), Annwyl Kate, Annwyl Saunders: Gohebiaeth 1923–1983 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993) – gohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts
- Emyr Hywel (gol.), Annwyl D.J.: Llythyrau D.J., Saunders, a Kate (Y Lolfa, 2007) – gohebiaeth D. J. Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts
- Alan Llwyd, Kate: Cofiant Kate Roberts, 1891-1985 (Y Lolfa, 2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kate a gwraig y cigydd Gwefan Golwg 360. 18-11-2011. Adalwyd ar 22-11-2011
Dolen allanol
golygu
Llyfrau Kate Roberts | |
---|---|
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg |