Rhigwm
Termau llenyddol
Cerdd neu bennill ffwrdd-â-hi, ddiymdrech neu ddiawen yw rhigwm (lluosog: rhigymau; gair benthyg o'r Saesneg rigmarole). Tueddir i ddefnyddio'r gair i ddisgrifio cynnyrch barddonol beirdd gwael neu gyffredin, heb fawr o gamp lenyddol iddo, tebyg i doggerel yn Saesneg. Yn aml ceir digrifwch yn elfen amlwg yn y rhigwm. Mae'n gallu golygu chwedl neu res hir o bethau yn ogystal, ond nid dyna'r ystyr arferol yn y Gymraeg.
Fodd bynnag, dewisodd y bardd T. H. Parry-Williams ddefnyddio'r gair i ddisgrifio rhai o'i gerddi rhydd ei hun, e.e. yn y gyfrol Cerddi (1931), a rennir yn sonedau a rhigymau, a Synfyfyrion (1937) hefyd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Poetry Wales. Triskel Press. 1974. t. 6. (Saesneg)