T. H. Parry-Williams
Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig ac athro prifysgol o Gymru oedd Thomas Herbert Parry-Williams (21 Medi 1887 – 3 Mawrth 1975). Mae'n cael ei adnabod yn aml fel T. H. Parry-Williams neu T.H.. Ef yw awdur y gerdd enwog "Hon".
T. H. Parry-Williams | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1887 Rhyd-ddu |
Bu farw | 3 Mawrth 1975 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Cyflogwr | |
Tad | Henry Parry-Williams |
Priod | Amy Parry-Williams |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Gyrfa
golyguGaned T. H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, Arfon, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; ysgrifennodd soned enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i'r bardd R. Williams Parry a'r ysgolhaig Thomas Parry. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1908, ac yna cymerodd radd arall, mewn Lladin, y flwyddyn wedyn. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen ac yna i Brifysgolion Freiburg a Pharis i astudio ymhellach. Cymerodd safiad fel wrthwynebydd cydwybodol yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ym 1920, ac ar ôl ymddeol ym 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth ym 1975.
Bywyd personol
golyguPriododd Emiah Jane Thomas yn Awst 1942.
Gwaith llenyddol
golyguDaeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau academaidd.
Roedd yr ysgrif, ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.
Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987.
Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: mae diffyg ystyr bywyd i'w weld fel thema drwyddynt. Ef yw "brenin y soned Gymraeg"; dyma enghraifft allan o'r gerdd 'Llyn y Gadair':
- Ni wêl y teithiwr talog mono bron
- Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
- Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
- Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
- Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
- A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
- Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gŵr
- Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan...
gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oedd dim yno:
- Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
- Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.
-
Cerddi; clawr argraffiad 2011
-
Ffarwél i Freiburg gan Angharad Price
-
Damhegion, Distawrwydd a 'Dychrynodau' yn Ysgrifau T. H. Parry-Williams (2010)
Llyfryddiaeth
golyguCeir llyfryddiaeth gynhwysfawr gan David Jenkins yng Nghyfrol Deyrnged Syr Thomas Parry-Williams (1967).
Barddoniaeth
golygu- Cerddi (1931)
- Ugain o Gerddi (1949)
Cyhoeddwyd y cerddi i gyd yn y gyfrol Casgliad o Gerddi T.H. Parry-Williams (Gwasg Gomer, 1987).
Ysgrifau
golygu- Ysgrifau (1928)
- Olion (1935)
- Synfyfyrion (1937)
- Lloffion (1942)
- O'r Pedwar Gwynt (1944)
- Myfyrdodau (1957)
- Pensynnu (1966)
DS Mae rhai o'r cyfrolau hyn yn cynnwys adran o gerddi hefyd.
Cyhoeddwyd yr ysgrifau i gyd yn y gyfrol Casgliad o Ysgrifau T.H. Parry-Williams (Gwasg Gomer, 1984).
Ysgholheictod
golygu- Some Points of Similarity in the Phonology of Welsh and Breton (Paris: Honoré Champion, 1913)
- The English Element in Welsh: A Study of the Loan-Words in Welsh (Llundain: Honourable Society of Cymmrodorion, 1923)
- (golygydd) Carolau Richard White (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
- (golygydd) Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
- (golygydd) Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1932)
- (cyd-olygydd) Llawysgrif Hendregadredd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1933)
- Elfennau Barddoniaeth (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1935)
- (golygydd) Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1937)
- (golygydd) Ystorïau Heddiw (Aberystwyth: Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1938)
- (golygydd) Hen Benillion (Llandysul: Clwb Llyfrau Cymreig, 1940)
- Welsh Poetic Diction (Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1947)
- (golygydd) Y Bardd yn ei Weithdy: Ysgyrsiau gyda Beirdd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1948)
Cyfieithiadau
golygu- Ystorïau Bohemia, Cyfres y Werin 6 (Caerdydd: Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol, [1921])
- Chwech o Ganeuon Enwog Schubert (Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1936)
- Chwech o Ganeuon Enwog Brahms (Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1937)
- Faust (Gounod): Opera Bum Act (Llangollen: Cwmni Cyhoeddi Gwynn, dros Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ?1945)
- Elijah / Elias (Merthyr Tudful: Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ?1950)
Astudiaethau
golygu- Idris Foster (gol.), Cyfrol Deyrnged Syr Thomas Parry-Williams (Llys yr Eisteddford Genedlaethol, 1967)
- Dyfnallt Morgan, Rhyw Hanner Ieuenctid: Astudiaeth o Ferddi ac Ysgrifau T. H. Parry-Williams rhwng 1907 a 1928 (Gwasg John Penry, 1971)
- R. Gerallt Jones, Writers of Wales: T.H. Parry-Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
- R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, cyfres Dawn Dweud (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
- Angharad Price, Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry Williams (Gwasg Gomer, 2013)
- Angharad Price, "Parry-Williams, Syr Thomas Herbert (1887-1975)", yn Y Bywgraffiadur Cymreig (2014)
- Bleddyn Owen Huws, Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr (Y Lolfa, 2018)