Rhodri Meilir
Actor o'r Wyddgrug, Sir Fflint yw Rhodri Meilir (ganwyd 18 Tachwedd 1978).[1] Addysgwyd ef yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug ac yn adran theatr, ffilm a theledu Prifysgol Aberystwyth.[1]
Rhodri Meilir | |
---|---|
Ganwyd | 18 Tachwedd 1978 Yr Wyddgrug |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Alfie Butts yng nghomedi sefyllfa'r BBC, My Family. Mae hefyd wedi ymddangos mewn rhaglenni eraill gan gynnwys afterlife (Daniel 2) a Terry Pratchett's Hogfather (Bilious, Oh God of Hangovers) ar Sky One. Ar deledu Cymraeg mae wedi ymddangos yn y Pris, Caerdydd, a Tipyn o Stad. Yn 2006, ymddangosodd yn Doctor Who yn y bennod The Runaway Bride. Yn ddiweddar mae Rhodri Meilir wedi ymddangos mewn cyfres i blant o'r enw Rapsgaliwn.
Yn 2021 chwaraeodd ran Euros yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 BBC North East Wales Showbiz - Rhodri Meilir. Hall of Fame. BBC Wales / North East.