Rhwydweithio cymdeithasol

Rhwydweithio cymdeithasol yw'r weithred neu'r gwasanaeth ble gwelir adeiladu cymuned o bobl sy'n gyfeillion neu sy'n rhannu'r un diddordebau neu gysylltiadau.

Rhyngrwyd golygu

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau rhwydweithio cymdeithasol yn cynnig sawl ffordd o rydweithio, megis ebost a negesau ennyd ond mae wedi'i sefydlu ar y we. Mae'r unigolyn yn creu ac yn adeiladu ei broffil cyhoeddus ei hun ac yn creu rhestr o ddefnyddwyr y gellir rhannu cysylltiadau gyda nhw.

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn amrywiol eu natur a cheisiant ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i hwyluso'r cyfathrebu rhwng y defnyddwyr e.e. cysylltu dros y ffôn llaw, rhannu ffeiliau megis lluniau, fideo neu flogio.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Journal of Computer-Mediated Communication Cyfrol 13, Rhifyn 1, tudalen 210–230, Hydref 2007
  Eginyn erthygl sydd uchod am gymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.