Rhydian Roberts
Canwr operatig Cymreig ydy Rhydian Roberts (ganed 14 Chwefror, 1983). Yn wreiddiol o Bontsenni, mae'n fwyaf adnabyddus am ymddangos ar y bedwaredd gyfres o'r sioe dalentau'r Deyrnas Unedig The X Factor pan ddaeth yn ail i Leon Jackson. Ar 20 Tachwedd, 2009 ymddangosodd Rhydian ar raglen Plant mewn Angen y BBC.
Rhydian Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1983 ![]() Cymru ![]() |
Label recordio | Sony Music ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, cyflwynydd teledu ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Math o lais | bariton ![]() |
Gwefan | http://www.rhydianroberts.com ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Ar 30 Tachwedd, 2009 rhyddhawyd ei ail albwm, O Fortuna. Dilynwyd hyn yn Awst 2011 gyda'i drydydd albwm, Waves ac yna gydag albwm o ganeuon Cymreig ym mis Rhagfyr o'r un flwyddyn. Yn Ebrill 2014, rhyddhaodd ei albwm mwyaf diweddar, One Day Like This.
Ar 18 Chwefror 2023, cyhoeddodd Rhydian ei ymddeoliad o ganu proffesiynol[1]
Albymau
golygu- Rhydian (2008)
- O Fortuna (2009)
- Waves (2011)
- Welsh Songs: Caneuon Cymraeg (2011)
- One Day Like This (2014)
- The Very Best of My Life (2024/25)[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhydian Roberts yn cyhoeddi y bydd yn ymddeol wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed". Newyddion S4C. Cyrchwyd 3 Ebrill 2025.
- ↑ "Rhydian - The Very Best Of My Life". Rhydian Roberts. Cyrchwyd 3 Ebrill 2025.