Rhyfel Olyniaeth Llydaw
Ymladdwyd Rhyfel Olyniaeth Llydaw rhwng 1341 a 1364, rhwng dau deulu oedd yn hawlio gorsedd y ddugiaeth. Ystyrir y rhyfel yn rhan o'r Rhyfel Can Mlynedd (1337-1453) rhwng Ffrainc a Lloegr. Cefnogai brenin Ffrainc Siarl o Blois a'i wraig Jeanne de Penthièvre, tra cefnogai brenin Lloegr Yann Moñforzh a'i wraig Jeanne de Flamme.
![]() | |
Enghraifft o: | war of succession ![]() |
---|---|
Rhan o | y Rhyfel Can Mlynedd ![]() |
Dechreuwyd | 1341 ![]() |
Daeth i ben | 12 Ebrill 1365 ![]() |
Lleoliad | Llydaw ![]() |
![]() |

Un o ddigwyddiadau'r rhyfel oedd Brwydr y Deg ar Hugain yn 1351. Diweddidd y rhyfel gyda buddugoliaeth i deulu Montfont, pan laddwyd Siarl o Blois ym Mrwydr an Alre a chymeryd Bertrand du Guesclin yn garcharor. Cadarnhawyd ei buddugoliaeth gan Gytundeb Gwenrann.