Bertrand du Guesclin
Uchelwr Llydewig a chadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Can Mlynedd oedd Bertrand du Guesclin, Llydaweg: Beltram Gwesklin (c. 1320 - 13 Gorffennaf 1380). Adnabyddid ef fel "Eryr Llydaw",[1] ac roedd yn gyfaill i Owain Lawgoch. Llwyddodd i adennill y rhan fwyaf o Ffrainc o afael brenin Lloegr.
Bertrand du Guesclin | |
---|---|
Ganwyd | 1320s, 1320 Bronn |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1380 Châteauneuf-de-Randon |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | person milwrol, marchog |
Swydd | Constable of France |
Tad | Robert II du Guesclin |
Priod | Jeanne de Laval-Tinténiac, Tiphaine Raguenel |
Ganed Bertrand du Guesclin yn Broons, ger Dinan, yn Llydaw. Roedd ei deulu yn fân-uchelwyr Llydewig. Ar ddechrau ei yrfa, roedd yng ngwasanaeth Siarl o Blois yn Rhyfel Olyniaeth Llydaw (1341-1364). Gwnaed ef yn farchog yn 1354. Yn 1356-1357, daeth Du Guesclin i sylw'r Dauphin Siarl trwy amddiffyn dinas Roazhon, oedd dan warchae gan y Saeson.
Yn 1364, daeth Siarl yn frenin Ffrainc fel Siarl V, a gyrrodd Du Guesclin i ymladd yn erbyn Siarl II, brenin Navarra, oedd yn ceisio meddiannu Dugiaeth Bwrgwyn. Llwyddodd i orchfygu byddin Navarra dan Jean de Grailly, Captal de Buch ym Mrwydr Cocherel. Ym mis Medi 1364, gorchfygwyd ef a Siarl o Blois gan Ioan V, Dug Llydaw a byddin Seisnig dan Syr John Chandos. Lladdwyd Siarl a chymerwyd Du Guesclin yn garcharor. Talodd Siarl V 100,000 ffranc i'w ryddhau.
Yn 1366 a 1367, bu'n ymladd yn Sbaen; yn llwyddiannus yhn 166, ond cymerwyd ef yn garcharor eto yn 1367, gan orfodi Siarl V i dalu i'w ryddhau unwaith eto. Ail-ddechreuodd y rhyfel yn erbyn Lloegr yn 1369, a llwyddodd Du Guesclin i adfeddiannu Poitou a Saintonge, a gyrru'r Saeson o Lydaw rhwng 1370 a 1374. Roedd wedi adfeddiannu'r rhan fwyaf o Ffrainc erbyn iddo farw tra ar ymgyrch yn Chateauneuf-de-Randon yn Languedoc. Claddwyd ef yn Saint-Denis gyda brenhinoedd Ffrainc.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 82.