Rhyfel y Vendée
(Ailgyfeiriad o Rhyfel Vendée)
Rhyfel y Vendée (Ffrangeg: Guerre de Vendée) yw'r enw a roddir ar y gwrthryfel yn ardal y Vendée yng ngorllewin Ffrainc yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig.
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | Rhagfyr 1793 |
Rhan o | War of the First Coalition |
Dechreuwyd | Mawrth 1793 |
Daeth i ben | Rhagfyr 1793 |
Lleoliad | Vendée |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd yr ymladd yn 1793, yn rhannol oherwydd fod cyfran helaeth o boblogaeth yr ardal yma yn gwrthwynebu polisi arweinwyr y Chwyldro o elyniaeth tuag at yr Eglwys Gatholig. Cafodd y gwrthryfelwyr nifer o fuddugoliaethau ar y cychwyn, ond roedd eu prif fyddin wedi ei gorchfygu erbyn diwedd 1793. Fodd bynnag, parhaodd yr ymladd hyd o leiaf 1796. Lladdwyd nifer fawr o bobl yn y Vendée yn dilyn y gwrthryfel, er fod dadl ymhlith haneswyr ynghylch y nifer.