Rhys Williams (actor)

actor a aned yn 1897

Actor ffilm-a-theledu Cymreig oedd Rhys Williams (31 Rhagfyr 189728 Mai 1969) a gafodd yrfa dros sawl degawd.

Rhys Williams
Ganwyd31 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
Sir Feirionnydd Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mai 1969 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata

Fe wnaeth ei ymddangosiad ffilm cyntaf yn How Green Was My Valley (1941). Mae'r ffilm wedi ei leoli yng nghefn gwlad Cymru ond Williams oedd yr unig actor Cymreig yn y cast. Fe ffilmiwyd y cynhyrchiad yn Hollywood gan ddefnyddio actorion Seisnig a Gwyddelig yn bennaf. Yn wreiddiol, fe gyflogwyd Williams i hyfforddi'r actorion ar sut i siarad gydag acenion Cymreig ond yn y pendraw fe roddodd y cyfarwyddwr John Ford ran iddo yn y ffilm [angen ffynhonnell] Yn 1945, chwaraeodd Williams ran Dr. McKay yn y ffilm ganmoledig The Bells of St. Mary's, yn serennu Bing Crosby a Ingrid Bergman. Ym 1940 bu'n chware rhan John Goronwy Jones yn nrama The Corn is Green ar Broadway a rhan Mr Watty yn addasiad ffilm o'r un ddrama ym 1945.

Mae'n adnabyddus i selogion y gyfres deledu, Adventures of Superman fel cymeriad sadistig mewn pennod gynnar o'r enw "The Evil Three" (1952). Fe wnaeth ymddangosiad gwadd yn 1958 fel Rufus Varner, casglwr celf ym mhennod Perry Mason, "The Case of the Purple Woman." Mae ei ymddangosiadau teledu yn cynnwys cyfres grefyddol Crossroads, The DuPont Show with June Allyson ar CBS, Peter Gunn, gyda Steve Allen ym mhennod 1960 o "Play Acting", Riverboat a The Lloyd Bridges Show.[angen ffynhonnell]

Fe roedd ei ymddangosiadau hwyrach yn cynnwys Temple Houston, 77 Sunset Strip, The Wild Wild West, Twelve O'Clock High, The F.B.I., Mission: Impossible, Mannix, The Donna Reed Show, Here Come the Brides a The Andy Griffith Show.

Bu farw Williams yn 71 mlwydd oed; fe'i claddwyd yn Forest Lawn Memorial Park yn Los Angeles.

Ffilmyddiaeth rhannol golygu

Cyfeiriadau golygu