Richard (esgob Bangor)

Clerigwr a fu'n Esgob Bangor o 1236 hyd 1267 oedd Richard (bu farw Hydref/Tachwedd 1267).

Richard
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Bangor Edit this on Wikidata

Wedi cyfnod fel Archddiacon Bangor, etholwyd ef yn esgob ar 7 Mehefin 1236, a chysegrwyd ef gan Archesgob Caergaint yn 1237. Yn y cyfnod 1241 - 1246, gwrthwynebodd y tywysog Dafydd ap Llywelyn. Wedi cytundeb heddwch 1247, gadawodd ei esgobaeth i fyw yn St Albans yn Lloegr, er y cofnodir iddo ymweld a'r esgobaeth yn 1252, ac roedd yn ôl yng Nghymru erbyn Hydref 1259.

Tua 29 Medi 1267 gofynnodd i'r pab am ganiatad i ymddiswyddo oherwydd oedran ac afiechyd; roedd wedi marw erbyn 8 Tachwedd 1267.