St Albans

Dinas yn Lloegr

Dinas yn ne Swydd Hertford, Dwyrain Lloegr, yw St Albans[1] (o'r Lladin Villa Sancti Albani neu Villa Albani), a leolir tua 22 milltir (35 km). Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas ac Ardal St Albans. Saif i'r gogledd o ganol Llundain; mae'n ffurfio rhan ganolog Dinas ac Ardal St Albans (Saesneg: City and District of St Albans). Mae'n dref farchnad hanesyddol sydd bellach yn rhan o wregys comiwtio Llundain.

St Albans
Mathsatellite city, dinas, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAlban Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas ac Ardal St Albans
Poblogaeth82,146 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Worms, Fano, Nyíregyháza, Nevers, Odense, Sylhet Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Hertford
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd18.1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHarpenden Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.755°N 0.336°W Edit this on Wikidata
Cod OSTL148073 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig St Albans boblogaeth o 82,146.[2]

Cyfeirir at St Albans fel Verulanium ac Old Albanian weithiau hefyd. Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, roedd St Albans yn drigfan i bobl Celtaidd y Catuvellauni ac yn cael ei hadnabod fel Verlamion (neu Verulam). Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, Verlamion oedd yr arosfa cyntaf ar Stryd Watling, y ffordd Rufeinig a redai o Lundain i'r gogledd, a ddatblygodd yn ddinas Rufeinig Verulamium.

Cafodd Sant Alban, a ystyrir y merthyr Cristnogol cyntaf ym Mhrydain, ei ddienyddio yn 308 OC gan Maximian ar orchymyn yr Ymerodr Diocletian. Ar ôl Sant Alban caiff y ddinas bresennol ei henw.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 24 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 24 Mehefin 2020

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Hertford. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato