Richard Brooke Roberts
Bioffisegydd o Pennsylvania a fathodd y gair 'Ribosom'.
Bioffisegydd oedd Richard Brooke Roberts (7 Rhagfyr 1910 – 4 Ebrill 1980) a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yng ngrŵp bioffiseg Adran Magnetaeth y Ddaear yn Athrofa Carnegie Washington (UDA). Rhoddodd enw ar y ribosom mewn cyfarfod yn 1958.[1] Cyn troi at fioffiseg, canolbwyntiodd ar ffiseg niwclear ac ef a brofodd fod niwtronau hwyr yn cael eu hallyrru pan holltir iwraniwm (1939).
Richard Brooke Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1910 Titusville |
Bu farw | 4 Ebrill 1980 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | biolegydd, bioffisegwr, microfiolegydd |
Fe'i ganwyd ym Titusville, Pennsylvania, i deulu eitha cefnog. Bu ei gyndeidiau'n fasnachwyr olew a thechnegau o ddefnyddio ffrwydron i ryddhau a chlirio ffynhonau olew. Ef oedd y trydydd plentyn a symudodd y teulu i Princeton yn 1916 ac yna i Efrog Newydd; ond pob haf dychwelodd i Titusville, hyd at diwedd y 1930au.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.nap.edu; Roy J. Britten (1993); adalwyd 9 Mehefin 2016
- ↑ nasonline.org; adalwyd 9 Mehefin 2016.