Richard Jones (Gwyndaf Eryri)
bardd gyda'r enw barddol Gwyndaf Eryri
Bardd a ffermwr o Gymro oedd Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785 – 1848).
Richard Jones | |
---|---|
Ffugenw | Gwyndaf Eryri |
Ganwyd | 1785 |
Bu farw | 21 Mehefin 1848 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, ffermwr |
Ganwyd yn Erw Ystyffylau, plwyf Llanwnda, yn fab i John a Margaret Jones. Fe'i gladdwyd ym mynwent Llanbeblig. Enillodd ei fara trwy amaethu ac fel saer maen, ond daeth i amlygrwydd fel eisteddfodwr llwyddiannus os hunan-addysgiedig. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon, 1821 am awdl ar y testun Cerddoriaeth, a thlws y gwyneddigion yn Eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar Lles Gwybodaeth, ymysg gwobrau eraill. Ym 1818 cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, sef Peroriaeth Awen. Roedd hefyd yn gerddor mewn band y mintai o wirfoddolwyr a gynhelid gan y 3ydd Arglwydd Newborough.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.476