Llanbeblig
Plwyf a maesdref ar gyrion Caernarfon, Gwynedd, yw Llanbeblig. Gorwedd ar lannau afon Seiont ac mae'r plwyf, a fu'n rhan o gwmwd Arfon Is Gwyrfai yn yr Oesoedd Canol, yn cynnwys yn ei ffiniau caer Rufeinig Segontium.
Math | plwyf sifil, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.133791°N 4.254074°W |
Eglwys Llanbeblig
golyguMae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig (Lladin, Publicius), un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog ferch Eudaf a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yn ôl traddodiad, cafodd Macsen ei gladdu yn eglwys Llanbeblig, ond gwyddys iddo farw yn yr Eidal yn 388 OC.
Cafodd yr adeilad cynnar ei newid yn sylweddol ar ôl i Gaernarfon ddod yn fwrdeistref (Seisnig i ddechrau) ar ôl goresgyniad Gwynedd yn 1282-83. Mae'r darnau cynharaf o'r muriau presennol yn dyddio i'r 14g gydag ychwanegiadau yn y 15fed a'r 16g. Yng Nghapel Faenol yn yr eglwys ceir ffenestr odidog o'r 14g. Mae'r tŵr trawiadol yn dyddio i'r 16g. Yn yr Oesoedd Canol roedd sgrîn Grog yr eglwys yn bur adnabyddus a cheir cerdd o'r cyfnod yn ei disgrifio. Ar ddechrau'r 20g cafwyd hyd i feddfaen Rhufeinig dan y mur deheuol.
Cyfeiriadau
golygu- H. Hughes & H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (1924; adargraffiad ffacsimili, Capel Curig 1984)
Gweler hefyd
golygu- Llyfr Oriau Llanbeblig, llawysgrif ganoloesol a gysylltir â Llanbeblig.