Richard Wyn Jones
Academydd a sylwebydd gwleidyddol yw Richard Wyn Jones (ganwyd 26 Mai 1966). Yn 2009 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n adran o fewn Prifysgol Caerdydd ac sydd hefyd a chysylltiad partneriaethol â Senedd Cymru; mae'r Ganolfan wedi'i lleoli, bellach, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd[1]
Richard Wyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1966, 1966 Sunset Boulevard |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol, political pundit, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Methiant Prifysgolion Cymru |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Academy of Social Sciences |
Bywyd cynnar
golyguMynychodd Ysgol Gyfun David Hughes cyn iddo ddilyn cwrs economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1984. Graddiodd gyda BSc Econ ac yna MSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1989.
Gyrfa
golyguFe'i penodwyd yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn Chwefror 2009. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig a chenedlaetholdeb. Roedd yn un o sylfaenwyr Critical Security Studies. Ysgrifennodd golofn achlysuol yn Barn, a chyflwynodd ddwy gyfres deledu i'r BBC. Mae hefyd yn sylwebu'n gyson ar faterion gwleidyddol i'r BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg[2].
Llyfryddiaeth
golygu- Methiant Prifysgolion Cymru, Medi 2004 (Sefydliad Materion Cymreig) ISBN 9781871726329
- Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Medi 2007 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9780708317563
- Wales Says Yes, Mawrth 2012 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9780708324868
- Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru - Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth, Gorffennaf 2013 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9780708326503
- The Fascist Party in Wales?: Plaid Cymru, Welsh Nationalism and the Accusation of Fascism, Ebrill 2014 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 9781783160563 (addasiad Saesneg o'r llyfr Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru - Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ cardiff.ac.uk; adalwyd 6 Rhagfyr 2020.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-10. Cyrchwyd 2016-01-15.