Llawddryll yw rifolfer sydd â silindr i gadw mwy nag un getrisen, gan amlaf chwech.[1] Mae'r silindr yn cylchdroi ar ôl pob taniad er mwyn galluogi'r gwn i saethu'r bwled nesaf heb yr angen i'w ail-lenwi. Gall rifolfer fod yn "weithrediad-sengl" os oes angen codi'r cnicyn cyn tanio'r arf, neu'n "weithrediad-dwbl" pan bo gwasgu'r glicied yn codi ac yn tanio'r gwn.[2] Mae'r mwyafrif o ddrylliau "codi a thanio" (h.y. gweithrediad-sengl) sydd ar gael heddiw yn rifolferi. Ni cheir rifolferi awtomatig.[1]

Smith & Wesson 19 gyda'i silindr ar agor, gan ddangos chwe chetrisen.

Dyfeisiwyd y rifolfer modern gan Samuel Colt.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Stern, Mark Joseph (17 Rhagfyr 2012). The Gun Glossary. Slate. Adalwyd ar 28 Mawrth 2013.
  2. (Saesneg) Firearms Definitions. Llysoedd Talaith Tennessee. Adalwyd ar 28 Mawrth 2013.