Mae Ring of Honor neu ROH yn gwmni ymgodymu (restlo) annibynnol Americanaidd sy'n adnabyddus am ei ymgodymu craidd caled neu eithafol. Sefydlwyd y cwmni yn 2002 gan Rob Feinstein, y perchennog presennol ydy Cary Silkin.

Mae ROH yn cynnal amryw o sioeau pob mis, weithiau hyd yn oed tua ag at chwech. Mae Ring of Honor yn cynnal rhai sioeau blynyddol gan gynnwys Anniversary Show, Death Before Dishonor, Survival of the Fittest, Glory by Honor a Final Battle (sioe olaf y flwyddyn).

Yn Ebrill 2001, roedd y cwmni dosbarthu fideoau ymgodymu RF Video angen gwmni/ffederasiwn ymgodymu i arwain eu gwerthiant ar ôl i Extreme Championship Wrestling fynd allan o fusnes, felly crewyd cwmni ROH.

Mae ROH yn recordio eu sioeau a'u gwerthu ar DVD, trwy archebion post ac o'u siop ar y wê, sydd wedi datblygu bas ffan i'r cwmni yn yr Unol Daleithiau ac ar draws y byd. Er nad oes gan ROH raglen deledu swyddogol mae uchafbwyntiau eu sioeau yn cael eu darlledu i gwledydd tramor ar sianel The Fight Network yng Nghanada ac ar sianel TWC Fight! ym Mhrydain.

Dolenni allanol

golygu