Robert Capa
Ffotograffydd rhyfel oedd Robert Capa (22 Hydref 1913 – 25 Mai 1954). Fe'i ganed yn Budapest, Hwngari. Roedd ei waith yn cwmpasu pum rhyfel gwahanol gan gynnwys Rhyfel Cartref Sbaen a'r Ail Ryfel Byd.
Robert Capa | |
---|---|
Ffugenw | Robert Capa |
Ganwyd | Endre Ernő Friedmann 22 Hydref 1913 Budapest |
Bu farw | 25 Mai 1954 Thái Bình |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Hwngari, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | gohebydd rhyfel, ffotograffydd, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr, llenor, professional photographer |
Blodeuodd | 1938 |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Falling Soldier, The farmer and the soldier (Robert Capa) |
Arddull | celf ffigurol |
Prif ddylanwad | Ernest Hemingway |
Mudiad | Realaeth |
Tad | Dezsö Friedmann |
Mam | Júlia |
Partner | Gerda Taro |
Gwobr/au | Croix de guerre des théâtres d'opérations extérieures, Béla Balázs Award, Medal of Freedom, International Photography Hall of Fame and Museum |
Daeth yn enwog drwy'r byd yn 1936 am y llun "Falling Soldier/Muerte de un Miliciano" o'r milwr a saethwyd yn ei ben yn syrthio'n farw. Mae amheuaeth ynghylch dilysrwydd y llun erbyn hyn ond erys yn llun eiconig o gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen.
Tynnodd ei luniau enwocaf o'r Ail Ryfel Byd ar 6 Mehefin 1944 (D-Day) ar ôl nofio i'r lan gyda'r ail don o filwyr a laniodd ar draeth Omaha. Tynnodd 106 o luniau ond yn dilyn camgymeriad gan aelod o staff yr ystafell dywyll y cylchgrawn Life yn Llundain, dim ond wyth llun a welodd olau dydd.
Yn 1947, ar y cyd â'r ffotograffydd o Ffrainc, Henri Cartier-Bresson ac eraill, sefydlodd Magnum Photos sef yr asiantaeth gydweithredol gyntaf i ffotograffwyr llawrydd ledled y byd.
Bu farw a'i gamera yn ei law ar ôl sefyll ar ffrwydryn tir wrth weithio ar gyfer Life yn Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina yn ne-ddwyrain Asia.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Bywgraffiad Robert Capa; Gwefan Magnum