Robert Crumb
Arlunydd o Americanwr yw Robert Dennis Crumb (ganwyd 30 Awst 1943).
Robert Crumb | |
---|---|
Ffugenw | Crumb, Robert |
Ganwyd | Robert Dennis Crumb 30 Awst 1943 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cartwnydd, arlunydd comics, banjöwr, newyddiadurwr, nofelydd, cerddor, llenor, drafftsmon, artist recordio |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Angelfood McSpade |
Priod | Aline Kominsky-Crumb |
Plant | Sophie Crumb |
Gwobr/au | Grand prix de la ville d'Angoulême, Gwobr Inkpot, Will Eisner Hall of Fame, Harvey Award for Best Artist, Best foreign work published in Spain |
Gwefan | http://www.rcrumb.com |
Crumb yw'r enwocaf o arlunwyr "comigion tanddaearol" yng ngwrthddiwylliant y 1960au. Dan ddylanwad LSD, datblygodd arddull unigryw o ddarlunio. Mae ei luniau yn ddychanol a chwerw ac yn aml o natur rywiol. Ymhlith ei weithiau enwocaf mae Keep on Truckin' a'r cymeriadau Fritz the Cat a Mr Natural. Cydweithiodd â Harvey Pekar i greu'r gyfres American Splendor.
Roedd Robert Crumb a'i deulu'n destun ffilm ddogfen Crumb. Heddiw mae'n byw yn Ffrainc.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.