Actor Cymreig yw Robert Gwilym (ganwyd 2 Rhagfyr 1956), a adnabyddir weithiau fel Bob Gwilym.[1]

Robert Gwilym
Ganwyd2 Rhagfyr 1956 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Ganwyd Robert Gwilym yng Nghastell-nedd, Sir Forgannwg, lle'r oedd ei deulu yn berchen ar gadwyn o siopau dillad isaf. Mae ei frawd, Mike Gwilym, hefyd wedi gwneud ei enw fel actor.

Mae Robert Gwilym wedi ymddangos mewn nifer fawr o sioeau teledu, yn cynnwys The Bill, Ultimate Force, Soldier Soldier, Coronation Street, London's Burning, Dancing at Lughnasa, a The Professionals ac yn adnabyddus iawn am chwarae Max Gallagher yn Casualty o 1998-2002. Mae ei waith radio yn cynnwys chwarae Corporal Carrot yn addasiad BBC Radio 4 o nofel Discworld Terry Pratchett, Guards!Guards!. Fe wnaeth Gwilym hefyd serennu gyferbyn a'i frawd Mike yn ffilm Andrew Grieve o 1987, On the Black Hill, a seiliwyd ar nofel Bruce Chatwin.[2]

Yn 2013, chwaraeodd ran Frank Bowman yn nrama llwyfan gyntaf Ian Rankin Dark Road.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Official website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-10. Cyrchwyd 2007-10-10.
  2. Imdb entry
  3. "Ian Rankin's Dark Road, Royal Lyceum Theatre, Edinburgh". independent.co.uk. The Independent. 30 September 2013. Cyrchwyd 25 October 2013.

Dolenni allanol golygu