Casualty (cyfres deledu)

Casualty yw'r gyfres ddrama meddygaeth brys sydd wedi rhedeg hiraf yn y byd.[1] Crëwyd y rhaglen gan Jeremy Brock a Paul Unwin, a chafodd ei ddarlledu gyntaf yn y DU ym 1986 ar BBC1. Y cynhyrchydd oedd Geraint Morris. Seilir y ddrama ar ysbyty ffuglennol Holby City Hospital ac mae'n adrodd hanes staff a chleifion Adran Gofal Brys yr ysbyty. Mae gan y sioe chwaer-rhaglen sef Holby City a ddaeth yn sgil llwyddiant Casualty. Yn achlysurol bydd cymeriadau a llinynnau stori'r ddwy raglen yn plethu. Ffilmir Casualty tua 3 mis ymlaen llaw a rhed am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, gyda phob cyfres yn cael saib o fis yn ystod yr Haf.

Casualty
Genre Drama Meddygol
Serennu Derek Thompson
Michael French
Suzanne Packer
Jane Hazlegrove
Matt Bardock
Charles Dale
Sunetra Sarker
Tony Marshall
Christine Tremarco
William Beck
Michael Obiora
Madeleine Mantock
Charlotte Salt
Oliver Coleman
Alex Walkinshaw
Gwlad/gwladwriaeth DU
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 34
Nifer penodau 820 (erbyn y 22 Gorffennaf 2012)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.50 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Darllediad gwreiddiol 6ed o Fedi, 1986 - presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Ffilmio o symud Casualty o Fryste, cartref y gyfres 'ers ei greu yn 1986, i Gaerdydd yn 2011, gyda'r bennod gyntaf o Gaerdydd darlledu ym mis Ionawr 2012.

Cymeriadau

golygu
  • Amanda Mealing yn chwarae Connie Beauchamp
  • George Rainsford yn chwarae Ethan Hardy
  • Derek Thompson yn chwarae Charlie Fairhead
  • Chelsea Halfpenny yn chwarae Alicia Munroe
  • Charlotte Salt yn chwarae Sam Nicholls
  • Alex Walkinshaw yn chwarae Adrian "Fletch" Fletcher
  • Suzanne Packer yn chwarae Tess Bateman
  • Chucky Venn yn chwarae Jacob Masters
  • Jane Hazlegrove yn chwarae Kathleen "Dixie" Dixon
  • Ian Bleasdale yn chwarae Josh Griffiths
  • Emily Carey yn chwarae Grace Beauchamp

Dolenni Allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Longest Running Emergency Medical Drama Gwefan swyddogol y BBc. Adalwyd 28-03-2009