Robert III, brenin yr Alban

gwleidydd (1330-1406)

Brenin yr Alban o 1390 hyd ei farwolaeth oedd Robert III, brenin yr Alban (14 Awst 13374 Ebrill 1406).

Robert III, brenin yr Alban
Ganwydc. 1330s Edit this on Wikidata
Scone Palace Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1406 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Rothesay Castle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddteyrn yr Alban Edit this on Wikidata
TadRobert II, brenin yr Alban Edit this on Wikidata
MamElizabeth Mure Edit this on Wikidata
PriodAnabella Drummond Edit this on Wikidata
PlantDavid Stewart, Duke of Rothesay, Iago I, brenin yr Alban, Margaret Stewart, James Stewart of Kilbride, Sir John Stewart, Lady Elizabeth Stewart, Egidia Stewart, Lady Mary Stewart, Robert Stewart Edit this on Wikidata
Llinachy Stiwartiaid Edit this on Wikidata
Robert III a'r Frenhines Annabella

Cafodd ei eni fel John Stewart; roedd yn fab hynaf i Robert II ac Elizabeth Mure. Priododd Anabella Drummond yn 1367. Tua 1387 dioddefodd anafiad difrifol o ganlyniad i gic gan geffyl, a bu'n dioddef yr effeithiau am y gweddill o'i oes. Daeth yn frenin yr Alban ar farwolaeth ei dad yn 1390. Yn 1399, o ganlyniad i anabledd Robert, daeth ei fab hynaf, David Stewart, Dug Rothesay, yn llywodraethwr y deyrnas. Wedi ffrae rhwng Dug Rothesay a'i ewythr, Robert, dug Albany, bu farw Rothesay ym mis Mawrth 1402, dan amgylchiadau amheus.

Penderfynodd Robert III yrru ei fab arall, James, i Ffrainc er mwyn diogelwch, ond pan oedd ar y ffordd yno yn 1406, cipiwyd ei long gan y Saeson, a chadwyd James yn garcharor brenin Lloegr am 18 mlynedd. ywedir i Robert farw o dorcalon wedi cael y newyddion. Olynwyd ef gan James fel Iago I, brenin yr Alban, ond aeth blynyddoedd heibio cyn iddo gael ei ryddhau i'w goroni.

Rhagflaenydd:
Robert II
Brenin yr Alban
1390 - 1406
Olynydd:
Iago I