Anabella Drummond

Roedd Anabella Drummond (tua 1350 – Hydref 1401) yn brenhines yr Alban trwy briodi â Robert III, brenin yr Alban .

Anabella Drummond
Ganwyd1350 Edit this on Wikidata
Dunfermline Edit this on Wikidata
Bu farwHydref 1401 Edit this on Wikidata
Scone Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
TadJohn Drummond Edit this on Wikidata
MamMary Montifex Edit this on Wikidata
PriodRobert III, brenin yr Alban Edit this on Wikidata
PlantDavid Stewart, Duke of Rothesay, Iago I, brenin yr Alban, Margaret Stewart, Lady Mary Stewart, Lady Elizabeth Stewart, Egidia Stewart, Robert Stewart Edit this on Wikidata
LlinachClan Drummond Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd Anabella Drummond ei geni yn yr Abaty Dunfermline, yn ferch i Syr John Drummond, arweinydd y Clan Drummond. Priododd John Stewart (a ddaeth yn ddiweddarach yn frenin yr Alban fel "Robert III") ym 1367. Bu iddynt dair merch a dau fab. Iago I, brenin yr Alban, oedd ei mab ieuengaf (g. 1394).[1]

Fel brenhines

golygu

Cafodd Robert ei anafu mewn ddamwain ym 1384. Ar ôl y ddamwain, roedd yn anabl a bu'n rhaid i'w wraig helpu i reoli'r wlad. Penderfynodd Robert III yrru ei fab ieuengaf, Iago, i Ffrainc er mwyn diogelwch. Pan oedd ar y ffordd yn 1406, cipiwyd ei long gan y Saeson, a chadwyd James yn garcharor Harri IV, brenin Lloegr ac wedyn Harri V, brenin Lloegr. Bu farw Robert ym 1406, ar ôl derbyn y newyddion.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Anabella ym Mhalas Scone.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Marshall, Rosalind K. (2003). Scottish Queens, 1034-1714 (yn Saesneg). Tuckwell Press. t. 46.
  2. Marshall, Rosalind K. (2003). Scottish Queens, 1034-1714 (yn Saesneg). Tuckwell Press. t. 46.