Robert John Dickson Burnie
Roedd Robert John Dickson Burnie (8 Ebrill 1842 – 6 Mawrth 1908) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Tref Abertawe o 1892 i 1895[1]
Robert John Dickson Burnie | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1842 Dawlish |
Bu farw | 6 Mawrth 1908 Sgeti |
Dinasyddiaeth | Saeson |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Burnie yn Dawlish, Dyfnaint, yn fab i John Dickson Burnie, adeiladwr a chontractwr, ac Elizabeth ei wraig.
Priododd Georgina Elliot ym 1866 a bu iddynt bedwar mab a dwy ferch.
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r ysgol ar ôl dderbyn addysg elfennol derbyniodd Burnie swydd fel clerc yn swyddfa The South Devon and Cornwall Railway Company. Ym 1864 cafodd ei ddyrchafu i swydd is ysgrifennydd y Bristol and South Wales Wagon Company a dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu i swydd Ysgrifennydd Cwmni Rheilffordd Cheltenham ac Abertawe, pan gaeodd swyddfa'r cwmni yn Cheltenham ym 1869 symudodd Burnie i Abertawe lle fu'n gweithio fel pennaeth y cwmni hyd ei farwolaeth.
Gyrfa wleidyddol
golyguYm 1877 cafodd Burnie ei ethol dros ward St Thomas ar Gyngor Abertawe, gwasanaethodd fel cadeirydd y pwyllgor cyllid a chadeirydd ymddiriedolaeth yr harbwr. Ym 1883 gwasanaethodd fel maer tref Abertawe.[2]
Ychydig cyn etholiad cyffredinol 1892 bu farw AS Ryddfrydol Abertawe Lewis Llewelyn Dillwyn, dewiswyd Burnie fel yr ymgeisydd brys i sefyll yn ei le[3]. Llwyddodd Burnie i gadw'r sedd i'r achos Rhyddfrydol ond collodd y sedd i'r Ceidwadwr John Talbot Dillwyn Llewellyn yn etholiad 1895. Cafodd ei ddewis yn ymgeisydd ar gyfer etholiad cyffredinol 1900 ond tynnodd allan o'r gystadleuaeth yn bennaf oherwydd ei wrthwynebiad i Ryfel y Boer[4].
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Bryncoed, Sgeti a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Y Cocyd[5]. Bu farw Mrs Burnie ym 1913[6].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BURIAL OF MR R D BURNIE - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1908-03-14. Cyrchwyd 2015-12-01.
- ↑ "THE RETIREMENT OF COUNCILLOR R D BURNIE - The Cambrian". T. Jenkins. 1889-10-18. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "Olynydd Mr Dillwyn - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1892-06-30. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "The Late Mr R D Burnie - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1908-03-14. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "THE LATE MR R D BURNIE - The Cambrian". T. Jenkins. 1908-03-13. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "LATE MRS R D BURNIE - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-06-02. Cyrchwyd 2015-12-02.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Lewis Llewelyn Dillwyn |
Aelod Seneddol Tref Abertawe 1892 – 1895 |
Olynydd: John Talbot Dillwyn Llewellyn |