Robert Redford
cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Santa Monica yn 1936
Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, model, amgylcheddwr, a dyngarwr o'r Unol Daleithiau yw Charles Robert Redford Jr. (ganwyd 18 Awst 1936), a elwir gan amlaf yn Robert Redford. Ymysg ei ffilmiau enwocaf fel actor yw Butch Cassidy and the Sundance Kid, Jeremiah Johnson, The Sting, ac All the President's Men.
Robert Redford | |
---|---|
Ganwyd | Charles Robert Redford 18 Awst 1936 Santa Monica |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, person busnes, actor llwyfan, actor, cynhyrchydd gweithredol, actor teledu, actor llais, amgylcheddwr, cyfarwyddwr, model, sgriptiwr, cynhyrchydd, llenor |
Cyflogwr | |
Arddull | y Gorllewin gwyllt |
Taldra | 179 centimetr |
Tad | Charles Robert Redford |
Mam | Martha W. Hart |
Priod | Lola Van Wagenen, Sibylle Szaggars |
Partner | Sibylle Szaggars |
Plant | Amy Redford, James Redford |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center, Audubon Medal, Officier des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, honorary doctorate of Trinity College, Dublin |
Enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1980 am ei ffilm Ordinary People a Gwobr Anrhydeddus yr Academi am Lwyddiant Oes yn 2002.
Ym 1978 cyd-sefydlodd Gŵyl Ffilm Utah/UDA, a gafodd ei hail-enwi'n Ŵyl Ffilm Sundance ym 1991 ar ôl cymeriad Redford yn Butch Cassidy and the Sundance Kid. Mae bellach yn ŵyl ffilm annibynnol fwyaf yr Unol Daleithiau.