Robert Schumann
Cyfansoddwr Almaenig oedd Robert Schumann (8 Mehefin 1810 - 29 Gorffennaf 1856). Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf y mudiad Rhamantaidd yn y 19g.
Robert Schumann | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
8 Mehefin 1810 ![]() Zwickau ![]() |
Bu farw |
29 Gorffennaf 1856 ![]() Achos: newynu ![]() Endenich, Bonn ![]() |
Man preswyl |
Schumann-Haus, Leipzig ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Sachsen, Yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cyfansoddwr, pianydd, beirniad cerdd, arweinydd, ysgrifennwr, cerddolegydd, cerddor, athro cerdd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Symphony No. 1, Symphony No. 2, Symphony No. 3, Kinderszenen ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth glasurol, opera, symffoni, cerddoriaeth siambr ![]() |
Tad |
August Schumann ![]() |
Priod |
Clara Schumann ![]() |
Plant |
Felix Schumann, Eugenie Schumann, Julie Schumann, Marie Schumann, Ferdinand Schumann ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed ef yn Zwickau, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Deyrnas Sacsoni. Ei fwriad ar y cychwyn oedd dod yn bianydd proffesiynol, a cymerodd hyfforddiant gan Friedrich Wieck. Fodd bynnag, anafodd ei law, a phenderfynodd ganolbwyntio ar gyfansoddi.
Hyd at 1840, cyhoeddodd gyfansoddiadau ar gyfer y piano yn unig, ond yn ddiweddarach cyfansoddodd ar gyfer cerddorfa a phiano, pedair symffoni, lieder ac un opera. Bu'n ysgrifennu llawer am gerddoriaeth yn y Neue Zeitschrift für Musik, cylchgrawn a fu'n un o'i sylfaenwyr.
In 1840, priododd Clara Wieck, merch Friedrich Wieck, ar ôl brwydr gyfreithiol hir a'i thad. Treuliodd y ddwy flynedd olaf o'i fywyd mewn sefydliad ar gyfer pobl ag afiechyd meddyliol ar ôl iddo geisio lladd ei hun.