Prifysgol Leipzig
Prifysgol gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Leipzig (Almaeneg: Universität Leipzig) a leolir yn Leipzig yn nhalaith Sacsoni. Hon ydy'r brifysgol hynaf yn yr Almaen, ond am Heidelberg, ac un o'r prifysgolion hynaf yn Ewrop.
Arwyddair | Aus Tradition Grenzen überschreiten |
---|---|
Math | prifysgol gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored, comprehensive university, university of applied sciences |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Leipzig |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 51.3387°N 12.378728°E |
Sefydlwydwyd gan | William II, Margrave of Meissen |
Sefydlwyd Prifysgol Leipzig ym 1409 gan fyfyrwyr ac athrawon Almaenig a symudodd o Brifysgol Prag, wedi i Václav IV, brenin Bohemia, drosglwyddo rheolaeth dros y brifysgol i'r Tsieciaid. Cydnabuwyd Prifysgol Leipzig gan bwl pabyddol ym 1409. Daeth dan ddylanwad y Diwygiad Protestannaidd ym 1539.[1]
Yn y 18g a'r 19g datblygodd yn un o brifysgolion blaenaf Ewrop, yn enwedig o ran ysgolheictod llenyddol a diwylliannol. Ymhlith yr athrawon o nod oedd y damcaniaethwr llenyddol Johann Gottsched, ac mae cyn-fyfyrwyr y brifysgol yn cynnwys y mathemategydd Gottfried Liebniz, yr athronydd Johann Fichte, y llenor Johann Wolfgang von Goethe, a'r cyfansoddwr Richard Wagner.
Aildrefnwyd y brifysgol ym 1946, ac ym 1953, dan reolaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR), newidiodd ei henw yn swyddogol i Brifysgol Karl Marx Leipzig. Yn sgil cwymp y DDR ym 1990, adferwyd yr hen enw.
Rhennir y brifysgol yn gyfadrannau economeg, y gyfraith, athroniaeth, hanes, gwyddor gwleidyddiaeth, astudiaethau diwylliannol, ieithyddiaeth ddamcaniaethol a chymhwysol, y gwyddorau, mathemateg a chyfrifiadureg, a meddygaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) University of Leipzig. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Hydref 2023.