Robin Williams (ffisegydd)
Ffisegydd ac academydd o Gymru yw Syr Robert Hughes Williams CBE, FRS, FLSW (ganwyd 22 Rhagfyr 1941), a adnabyddir yn gyffredin fel Robin Williams. Mae'n arbenigo mewn ffiseg cyflwr solet a lled-ddargludyddion. Bu'n Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Abertawe o 1994 i 2003. Bu'n dysgu ym Mhrifysgol Newydd Ulster a Phrifysgol Cymru, Coleg Caerdydd, cyn ymuno ag Abertawe.[1][2][3]
Robin Williams | |
---|---|
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1941 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffisegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Marchog Faglor, CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywgraffiad
golyguGanwyd ar fferm fynyddig yn Llanuwchllyn, a cafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yn Y Bala cyn mynd i Brifysgol Bangor, lle y graddiodd mewn ffiseg.
Wedi gorffen ei Ddoethuriaeth, bu’n gweithio yn Iwerddon gyda chyfnodau yn yr Unol Daleithiau ac yn yr Almaen, cyn dychwelyd i Gymru yn Bennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn falch iawn o weld cynifer o fyfyrwyr Cymraeg yn ymuno â’r adran ac roedd bob amser yn barod i gynnig dosbarthiadau yn y Gymraeg i’r rhai oedd â diddordeb.
Anrhydeddau
golyguYm 1990, etholwyd Williams yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), academi genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer y gwyddorau.[4] Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gymrawd Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW).[5]
Fe'i penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2004 am wasanaethau i addysg ac i'r gymuned yn Abertawe a'i urddo'n farchog yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2019 am wasanaethau i addysg uwch, ymchwil a'r iaith Gymraeg.
Yn 2022, derbyniodd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, “am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth”.[6]
Gweithiau dethol
golygu- Rhoderick, E. H.; Williams, R. H. (1988). Metal-semiconductor contacts (arg. 2nd). Oxford: Clarendon Press. ISBN 9780198593355.
- Morgan, D. V.; Williams, R. H., gol. (1991). Physics and technology of heterojunction devices. Stevenage: Peter Peregrinus. ISBN 9780863412042.
- Davies, G. J.; Williams, R. H. (1994). Semiconductor growth, surfaces, and interfaces (arg. 1st). London: Cyhoeddwyd gan Chapman & Hall ar gyfer Royal Society. ISBN 9780412577307.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Williams, Prof. Robert Hughes, (Robin)". Who's Who 2019 (yn Saesneg). Oxford University Press. 1 December 2018. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.U40055. Cyrchwyd 8 Mehefin 2019.
- ↑ "Professor Robin Williams CBE, FRS". Higher Education Funding Council for Wales - hefcw. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-08. Cyrchwyd 8 Mehefin 2019.
- ↑ "BIRTHDAY HONOURS 2019 – HIGH AWARDS" (PDF). GOV.UK. 2019. Cyrchwyd 8 Mehefin 2019.
- ↑ "Professor Robert Williams CBE FRS". Royal Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mehefin 2019.
- ↑ "Yr Athro Robin Williams CBE HonFInstP FLSW FRS". The Learned Society of Wales. Cyrchwyd 8 Mehefin 2019.
- ↑ Robin Williams yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol , Golwg360, 25 Mai 2022. Cyrchwyd ar 6 Awst 2022.