Ronald Gamarra
Cyfreithiwr a gwleidydd o Beriw yw Ronald Álex Gamarra Herrera (ganwyd 10 Rhagfyr 1958) sy'n arbenigo mewn hawliau dynol. Mae'n un o'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli teuluoedd dioddefwyr Barricos Altos a La Cantuta yn erbyn cyn-Arlywydd y wlad Alberto Fujimori.[1]
Ronald Gamarra | |
---|---|
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1958 Lima |
Man preswyl | Lima |
Dinasyddiaeth | Periw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, cyfreithiwr, barnwr, gweithredwr dros hawliau LHDTC+ |
Cyflogwr |
Rhwng 2001 a 2004 ef oedd Dirprwy Dwrnai Cyffredinol (ad hoc) Periw mewn achosion yn erbyn Fujimori a'i gynghorwr Vladimiro Montesinos. Roedd hefyd yn rhan o'r broses o esdraddodi'r cyn-Arlywydd yn ôl o Tsile. Rhwng 1988 - 2000 ef oedd cyfarwyddwr Rhaglen Gyfreithiol yr Instituto de Defensa Legal. Mae'n sgwennu colofn wythnosol yn y Lima dyddiol sef La República ac yn darlithio ym mhrifysgol Universidad Mayor de San Marcos.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rights lawyer confident Fujimori will get 30 years". The Standard. 24 Medi 2009. Cyrchwyd 24 Medi 2011.