Hawliau dynol
Hawliau dynol yw'r hawliau sylfaenol y credir eu bod yn eiddo i bob bod dynol. Gallant gynnwys pethau fel yr hawl i fywyd a rhyddid, rhyddid i fynegi barn, cydraddoldeb yn wyneb y gyfraith, hawliau cymdeithasol a diwylliannol, yr hawl i fwyd a'r hawl i waith ac addysg.
Ceir datganiadau ynghylch haliau dynol o gyfnod cynnar iawn, gan frenhinoedd ac ymerodron megis Cyrus Fawr o Ymerodraeth Persia ac Ashoka Fawr o India. Rhoddwyd pwyslais arnant yn Natganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn 1776 ac yn y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Daeth Confensiynau Genefa i fod rhwng 1864 a 1949 trwy ymdrechion Henry Dunant, sefydlydd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch. Carreg filltir bwysig oedd y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol a fabwysiadwyd gan y Cenhedloedd Unedig ar 10 Rhagfyr, 1948.