Rostrenenn
(Ailgyfeiriad o Rostrenen)
Cymuned yng ngorllewin Llydaw yw Rostrenenn (Ffrangeg: Rostrenen), Saif yn département Aodoù-an-Arvor (Côtes-d’Armor). Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 3,397.[1]
![]() | |
Math | cymuned, anheddiad dynol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,207 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Kanturk, Le Morne-Rouge ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Aodoù-an-Arvor, arrondissement of Guingamp ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 32.17 km² ![]() |
Uwch y môr | 216 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Groñvel, Plougernevel, Melioneg, Kergrist-Moeloù ![]() |
Cyfesurynnau | 48.2364°N 3.3169°W, 48.2369°N 3.3144°W ![]() |
Cod post | 22110 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rostrenenn ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d2/Blason_Rostrenen.svg/220px-Blason_Rostrenen.svg.png)
Mae'r enw yn cyfateb i "Rhos y ddraenen" yn Gymraeg. Yn ôl y chwedl, cafwyd hyd i gerflun pren o'r Forwyn Fair mewn llwyn o ddrain yma. Ceir pererindod yma ar 15 Awst, sydd yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn Llydaw.
Mabwysiadodd cyngor y dref y cynllun iaith Ya d'ar brezhoneg yn 2004. Yn 2007, roedd 34.1% o'r disgyblion cynradd yn derbyn addysg ddwyieithog. Cynhelir gŵyl Festival Fisel yma'n flynyddol.
Pobl enwog o Rostrenenn-
golygu- Françoise Morvan, awdur