Dinas yn Ynys y Gogledd, Seland Newydd yw Rotorua (Maorïeg: [ˌɾɔtɔˈɾʉa]). Mae'r rhan fwyaf o'r ddinas yn Nhalaith Bay of Plenty, ond mae rhan arall y ddinas yn Nhalaith Waikato. Mae'r ddinas ar lannau Llyn Rotorua, un o 18 o lynnoedd gerllaw, ac yn rhan o Ardal Folcanic Taupo[1]. Mae ffynnon boeth Pohutu Geyser yn Nyffryn Daearwresol Whakarewarewa yn codi hyd at 30 medr tua 20 gwaith pob dydd[2].

Rotorua
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth54,500, 54,204, 58,500 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1883 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Klamath Falls, Oregon, Beppu, City of Lake Macquarie, Ardal Wuzhong Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRotorua District Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Arwynebedd2,614.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr280 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Rotorua Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.1378°S 176.2514°E Edit this on Wikidata
Cod post3010, 3015 Edit this on Wikidata
Map

Daeth twristiaeth i'r ardal yn y 19g oherwydd y Terasau Pinc a Gwyn, nodwedd folcanic ar lannau Llyn Tarawera, ond dinistriwyd y terasau gan ffrwydrad Mynydd Tarawera ym 1886, ond mae ffynhonnau poethion a diwylliant Maori yr ardal yn denu twristiaid hyd at heddiw[3].

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Amgueddfa
  • Blue Baths

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tudalen ddaearwresol ar wefan wefan Rotorua". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-13. Cyrchwyd 2015-05-17.
  2. "Tudalen Rotorua ar wefan newzealand.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-17. Cyrchwyd 2015-05-17.
  3. Gwefan canadiantraveller

Dolen allanol golygu


Oriel golygu