Round House
Adeilad hynaf Awstralia yw'r Round House (Cymraeg: Tŷ Crwn). Lleolir yr adeilad, sy'n dal i sefyll, yn Arthur's Head yn Fremantle, Gorllewin Awstralia. Adeiladwyd yr adeilad yn 1830 a chynlluniwyd ef gan Henry Willey Reveley; dyma'r adeilad parhaol cyntaf ar lannau'r Swan River.
Math | adeiladwaith pensaernïol, safle treftadaeth, carchar |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Round House and Arthur Head Reserve |
Sir | City of Fremantle |
Gwlad | Awstralia |
Cyfesurynnau | 32.056118°S 115.741271°E |
Perchnogaeth | City of Fremantle |
Statws treftadaeth | State Registered Place |
Manylion | |
Carchar oedd y pwrpas gwreiddiol, roedd ganddo wyth cell, rhan ar gyfer y ceidwad ac roedd ganddo gwrt canol. Roedd y cynllun yn seiliedig ar y Panopticon, math o garchar a gynlluniwyd gan yr athronydd Jeremy Bentham. Defnyddiwyd y carchar ar gyfer trigolion trefol a brodorol tan 1886, yn ddalfa'r heddlu tan 1900 ac yna'n ardal preswylo i heddwas a'i deulu.
Yn 1982 daeth cyngor dinas Fremantle yn gyfrifol am yr adeilad. Mae bellach ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.