Rousay
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Rousay. Saif tua 3 km i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 212. Y prif bentref yw Banks.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 216 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 4,860 ha |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 59.1667°N 3.0333°W |
Hyd | 10 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ceir cysylltiad fferi a Tingwall, ar ynys Mainland. Mae'r ynys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae gwarchodfa yn perthyn i'r RSPB arni. Ceir hefyd amrywiaeth o henebion, yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a chyfnodau diweddarach, yn cynnwys crannog a sawl broch.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Broch Midhowe
- Rinyo
- Taversoe Tuick
- Tŷ Trumland