Rowland Lee
Esgob a gwleidydd oedd Rowland Lee (tua 1487 – 28 Ionawr 1543).
Rowland Lee | |
---|---|
Ganwyd | 1487 Isel |
Bu farw | 28 Ionawr 1543, 27 Ionawr 1543, 21 Ionawr 1543 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Roman Catholic Bishop of Coventry and Lichfield |
Tad | William Leigh |
Mam | Isabel Trollope |
Adnabyddir ef orau am ei dymor fel Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau, ac ar orchymyn Thomas Cromwell, fe geisiodd dod a chyfraith a threfn i ardaloedd Cymru yn 1534. Beth olynodd oedd teyrnasiad ofn, a penderfynnodd Lee ddelio gyda'r Cymry 'digyfraith' gan eu euogfarnu a'u crogi â anghosbedigaeth. Honnodd Lee ei fod wedi crogi 5000 o Gymry yn ei bum mlynedd yn y swydd; gorliwiad efallai, ond ta waeth, mae'n dangos cymeriad y dyn a'i ddisgrifwyd fel casawr mawr y Cymry gan Dafydd Jenkins. Roedd atgasedd tuag at Lee ymysg y bonheddigion hefyd oherwydd ei ddiffyg parch, broliodd unwaith ei fod wedi crogi "Pum o'r gwaed gorau yn Swydd Amwythig".
Dywedir i'r "Esgob crogi" fod yn siomedig ac wedi cynhyrfu yn 1536 pan weithredwyd y Deddfau Uno, credai na allwyd ymddiried yn y Cymry fel rhan o Loegr. Bu farw yn Amwythig.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Jones, Michael A. (2004). "Lee, Rowland (c. 1487–1543)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/16307.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Veysey |
Llywydd Cyngor Cymru a'r Gororau 1534 - 1543 |
Olynydd: Richard Sampson |