Rowland Thomas
Roedd Rowland Thomas (c. 1621 – 1698) o Springfield, Massachusetts yn wladychwr o Loegr, saer maen, syrfëwr, a pherchennog tir. Rhoddwyd ei enw ar Mount Tom, a elwid yn wreiddiol yn Mount Thomas, y dywedir iddo ei fapio gydag Elizur Holyoke.
Rowland Thomas | |
---|---|
Murlun o Rowland Thomas, mewn siaced goch, a'i ddynion yn mapio ger Rhaeadr Hadley | |
Ganwyd | 1621 Berry Pomeroy |
Bu farw | 21 Chwefror 1698 Springfield |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Cefndir
golyguGanwyd ef yn fab i'r marchog Syr David Thomas ac Anna Ison ym mhentref Berry Pomeroy, Dyfnaint, yn Lloegr. Dim ond ychydig a gofnodir am fywyd cynharach Rowland Thomas cyn iddo gyrraedd Springfield, Massachusetts. Ar naill ai Chwefror 14 neu Ebrill 14, 1647 priododd Sarah Chapin, merch y Diacon Samuel Chapin a Cecily Penney. Ni wyddom yn union pa bryd y cyrhaeddodd Thomas America ond dywedir iddo gyrraedd ardal Springfield cyn y flwyddyn 1650, gyda dogfennau'n nodi ei fod yn berchen ar 29.5 erw o dir.[1][2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Darrin Lythgoe. "Rowland Thomas". SherrySharp.com (yn Saesneg). The Next Generation of Genealogy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mai 2019.
- ↑ "U.S. Armory" (yn en). The Massachusetts Register (Boston: Damrell and Moore) (86): 324. 1862. https://books.google.com/books?id=opRQAAAAYAAJ&pg=PA324.
- ↑ Morris, Henry (1876). 1636-1675: Early history of Springfield (yn Saesneg). Springfield, Mass: F. W. Morris. t. 24.