Ruth Jones (gwleidydd)

Gwleidydd ac undebwr llafur

Gwleidydd o Gymraes yw Ruth Jones sy'n Aelod Seneddol (AS) y Blaid Lafur dros Orllewin Casnewydd, a etholwyd gyntaf ym mis Ebrill 2019 yn isetholiad 2019 Gorllewin Casnewydd.[2] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024, etholwyd hi i sedd newydd Gorllewin Casnewydd ac Islwyn.[3]

Ruth Jones
Aelod Seneddol
dros Orllewin Casnewydd
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 April 2019
Rhagflaenwyd ganPaul Flynn
Mwyafrif1,951 (8.2%)
Manylion personol
Plaid gwleidyddolLlafur
CartrefAllt-yr-ynn[1]
ProffesiwnFfisiotherapydd

Addysgwyd Jones yn Ysgol Uwchradd Duffryn yng Nghasnewydd.[1] Gweithiodd fel ffisiotherapydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am fwy na 30 mlynedd, ac ar ôl hynny cafodd ei hethol, yn 2007, yn llywydd TUC Cymru.[4][5]

Cyn cael ei hethol, cystadlodd dros y Blaid Lafur yn Nhrefynwy yn etholiadau cyffredinol 2015 a 2017.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "About". Ruth Jones for Newport West. Labour Party. Cyrchwyd 5 April 2019.
  2. "Newport West By-election results | Newport City Council". www.newport.gov.uk. Cyrchwyd 2019-04-05.
  3. "Canlyniadau Gorllewin Casnewydd ac Islwyn". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2024.
  4. "Newport West by-election candidates named after death of Paul Flynn". 19 March 2019.
  5. 5.0 5.1 Deans, David (2 April 2019). "Newport West by-election: Who are the candidates?".

Dolenni allanol

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Paul Flynn
Aelod Seneddol dros Orllewin Casnewydd
2019 – presennol
Olynydd:
deiliad