Ruth Pritchard
Awdur plant o Cynwyl Elfed yw Ruth Pritchard.[1]
Ruth Pritchard | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, athro cerdd |
Mae'n ysgrifennu penillion ar gais ar gyfer achlysuron arbennig. Yn 1992, cyhoeddodd ddau lyfr i blant, Straeon Cledwyn y Cwch Bach Coch , ac mae hi'n un o gyfranwyr y gyfres o lyfrau barddoniaeth i blant, Cerddi Lloerig. Cipiodd sawl cadair mewn eisteddfodau lleol a hi oedd y ferch gyntaf i ennill cadair Gŵyl Fawr Aberteifi yn 1995. Enillodd gadair Eisteddfod Dyffryn Conwy yn 1996, a'r wobr am y delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr y flwyddyn honno hefyd.
Cyhoeddwyd y gyfrol Adenydd a Chadwyni gan Wasg Carreg Gwalch yn 2018.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 1845276701". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Ruth Pritchard ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |