Paraffilia a ddiffinnir gan atyniad rhywiol dynol tuag at anifeiliaid annynol yw söoffilia,[1] o'r Roeg ζῷον (zṓion, "anifail") a φιλία (ffilia, "cyfeillgarwch" neu "gariad"). Defnyddir amryw o wahanol dermau gan glinigyddion ac gan söoffiliaid (unigolion gyda söoffilia) eu hunain. Mae söoffilia yn cyfeirio yn benodol at ddiddordeb rhywiol mewn anifeiliaid, nid ymddygiad rhywiol gydag anifeiliaid.[2] Mae termau Cymraeg am gyfathrach rywiol rhwng bodau dynol ac anifeiliaid yn cynnwys bwbechni, milgydiad, milgydiaeth, bwystfilgydiaeth,[3] a bwystfileiddiwch.[4]

Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr, torlun pren erotig gan Hokusai sy'n dangos benyw ddynol noeth mewn cofleidiad rhywiol gyda dau octopws.
Hen gerfluniau o Deml Lakshana yn Khajuraho, India.

Er bod gweithredoedd rhywiol gydag anifeiliaid yn gyfreithlon mewn ambell wlad, ni chânt eu cydoddef yn benodol unrhywle heddiw ac mae rhyw gydag anifeiliaid yn parháu fel tabŵ ym mron pob cymdeithas ddynol. Yn y mwyafrif o wledydd, mae'r fath weithredoedd yn anghyfreithlon yn ôl deddfau sy'n gwahardd creulondeb tuag at anifeiliaid neu droseddau yn erbyn natur.

Yn seicoleg mae yna ddadl sylweddol ynglŷn ag os yw rhai agweddau söoffilia yn cael eu deall yn well fel paraffilia neu fel cyfeiriadedd rhywiol, a elwir weithiau yn söorywioldeb. Daeth y term hwn a'r cysyniad o gyfeiriadedd rhywiol tuag at anifeiliaid yn fwy cyffredin yn y maes gwyddonol ers ymchwil Hani Miletski yn y 1990au. Miletski oedd y cyntaf i wneud ymchwil ffurfiol i weld os yw cyfeiriadedd rhywiol tuag at anifeiliaid yn bodoli. Defnyddiodd ddiffiniad o gyfeiriadedd rhywiol sy'n seiliedig ar waith Francoeur (1991) yn ei astudiaeth o gyfunrywioldeb, heterorywioldeb, a deurywioldeb.[5] Yn ôl y diffiniad hwn, mae cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys tair agwedd rhyng-gysylltiedig:

  1. Cyfeiriadedd serchus – gyda phwy yr ydym yn bondio'n emosiynol,
  2. Cyfeiriadedd ffantasi – amdano pwy mae ein ffantasïau rhywiol, a
  3. Cyfeiriadedd erotig – gyda phwy sydd gwell gennym cael rhyw.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1710 [zoophilic, zoophilous].
  2. Masters (1969), "only very rarely is the animal contact a product of sexual deviation in the sense that the person's desires are exclusively or customarily and preferentially, and for reasons beyond his or her control, directed toward animals rather than toward human partners. Rather, in all but a tiny minority of cases, bestiality is engaged in for other reasons. It may be a substitute or supplemental type of sex outlet, as masturbation is for many persons."
  3. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 126 [bestiality].
  4. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 21.
  5. Miletski (2002), pennod 13

Llyfryddiaeth

golygu
  • Masters, Robert E.L. Ph.D. Forbidden Sexual Behaviour and Morality, an objective examination of perverse sex practices in different cultures (1962), ISBN 0-85629-041-6
  • Masters, Robert E.L. Ph.D. Sexual Obsession: An autobiographical approach to the problem of the sex-dominated personality. (1969), Efrog Newydd: Paperback Library.
  • Miletski, Hani Ph.D. Bestiality - Zoophilia: An exploratory study, traethawd, The Institute for Advanced Study of Human Sexuality. San Francisco, CA, Hydref 1999
  • Miletski, Hani Ph.D. Understanding Bestiality and Zoophilia, (2002), (Gwefan Hani Miletski) ISBN 0-9716917-0-3