Saethu torfol yn yr Unol Daleithiau

Lleddir mwy o bobl drwy eu saethu gyda gynnau yn Unol Daleithiau America nag unrhyw wlad arall ar y blaned; gelwir y digwyddiadau hyn yn saethu torfol.[1][2][3][4][5] Diffinnir "saethu torfol" fel arfer pan fo dros pedwar o bobl wedi'u lladd, heb gynnwys y saethwr ei hun.[6][7] Rhwng 1967 a 2017 cafwyd 146 digwyddiad o'i fath, gyda chyfartaledd o wyth o bobl yn cael eu lladd ym mhob digwyddiad (gan gynnwys y saethwr).[8] Fel arfer mae'r saethwr naill ai'n saethu ei hun neu'n cael ei ladd gan yr heddlu, ar adegau prin, caiff ei ddal gan yr heddlu.[9]

Cyfanswm marwolaethau yn U.D.A. yn ôl blwyddyn.

Rhwng 2011 a 2017 cododd y nifer y digwyddiadau hyn o saethu torfol yn UDA dair gwaith cymaint. Ar gyfartaledd, erbyn 2014 roedd saethu torfol yn cyrmryd lle bob 64 diwrnod yn UDA.

Pam fod cymaint o lofruddiaethau torfol gyda gynnau yn yr Unol Daleithiau? golygu

Ceir sawl rheswm posib dros hyn, neu gyfuniad o resymau:

  1. Mae'n hawdd cael gafael ar wn,[10][11][12]
  2. Mae'r elfen o gopio'n digwydd: copio saethwyr eraill neu arwyr teledu, meddalwedd a ffilm,[11]
  3. Yr awch i fod yn arwr a bod yn nodedig,[10][11]
  4. Y gredo, yn UDA, y gellir cyfiawnhau lladd ar adegau.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "US Mass Shootings, 1982–2017: Data From Mother Jones' Investigation".
  2. U.S. Leads World in Mass Shootings. The Wall Street Journal. Adalwyd 2 Hydref 2017.
  3. Why the US has the most mass shootings. CNN. Adalwyd 2 Hydref 2017.
  4. Why the U.S. is No. 1 – in mass shootings. Los Angeles Times. Adalwyd 2 Hydref 2017.
  5. The United States Has Had More Mass Shootings Than Any Other Country. Mother Jones. Adalwyd 2 Hydref 2017.
  6. Ingraham, Christopher (3 Rhagfyr 2015). "What makes a 'mass shooting' in America". Washington Post. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.
  7. Follman, Mark. "What Exactly Is A Mass Shooting". Mother Jones. Cyrchwyd 9 Awst 2015.
  8. Berkowitz, Bonnie; Gamio, Lazaro; Lu, Denise; Uhrmacher, Kevin; Lindeman, Todd (5 Hydref 2017). "50 years of U.S. mass shootings: The victims, sites, killers and weapons". Washington Post. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.
  9. Blair, John Pete; Schweit, Katherine W. (2014), A Study of Active Shooter Incidents, 2000–2013, Washington DC: Texas State University a'r Federal Bureau of Investigation, https://www.fbi.gov/file-repository/active-shooter-study-2000-2013-1.pdf
  10. 10.0 10.1 Healy, Melissa (24 Awst 2015). "Why the U.S. is No. 1 – in mass shootings". LA Times. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2017.[dolen marw]
  11. 11.0 11.1 11.2 Christensen, Jen (5 Hydref 2017). "Why the US has the most mass shootings". CNN. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2017.
  12. The United States Has Had More Mass Shootings Than Any Other Country. Mother Jones. Retrieved: 2 Hydref 2017.