Cyflafan Sandy Hook
Cyfres o lofruddiaethau yn Newtown, Connecticut, UDA, ar 14 Rhagfyr 2012 oedd cyflafan Sandy Hook neu gyflafan Sandy Newtown. Ar fore'r Dydd Gwener hwnnw, lladdodd Adam Lanza[1] ei fam, Nancy Lanza, a gyrrodd i Ysgol Gynradd Sandy Hook a saethu 20 o blant a chwech o oedolion yn farw cyn iddo ladd ei hunan.
Enghraifft o'r canlynol | school shooting, saethu torfol, matricide, murder–suicide, pedicide |
---|---|
Dyddiad | 14 Rhagfyr 2012 |
Lladdwyd | 28 |
Rhan o | list of school shootings in the United States |
Lleoliad | Sandy Hook Elementary School |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Fairfield County |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu farw 18 o blant a chwe oedolyn yn yr ysgol ei hun. Bu farw dau blentyn arall yn hwyrach yn yr ysbyty lleol. Menywod oedd yr oedolion i gyd: dwy athrawes, dwy gynorthwywraig addysg, y brifathrawes, a seicolegydd yr ysgol. Roedd y plant fu farw i gyd yn 6 neu 7 mlwydd oed, ac wyth ohonynt yn fechgyn a 12 yn ferched. Cafodd dwy athrawes arall eu hanafu.
Y llofrudd
golyguDyn 20 oed oedd Adam Peter Lanza (22 Ebrill 1992 – 14 Rhagfyr 2012) a drigai gyda'i fam yn Sandy Hook, adran o Newtown, mewn tŷ 8 km o'r ysgol gynradd.[2] Nid oedd ganddo gofnod troseddau.[3][4][5][6] Mynychodd Ysgol Gynradd Sandy Hook am gyfnod,[7] ac yna Eglwys Gatholig St. Rose Lima yn Newtown.[8] Mynychodd Ysgol Uwchradd Newtown ac yno'n fyfyriwr ar restr yr anrhydeddau,[9] ond cafodd ei dynnu allan o'r ysgol yn 16 oed.[10] Cafodd ei addysgu yn y cartref gan ei fam a'i dad, ac enillodd gymhwyster yr GED.[11] Mynychodd Prifysgol Daleithiol Gorllewin Connecticut yn 2008 a 2009.[11] Yn ôl ei athrawon a'i gyd-ddisgyblion o'r ysgol uwchradd, roedd Lanza yn "ddeallus, ond yn bryderus ac aflonydd", ac yn fachgen swil heb unrhyw gyfeillion agos.[2]
Derbynodd diagnosis o anhwylder prosesu synhwyraidd, nodwedd gyffredin o awtistiaeth, pan dechreuodd yn yr ysgol gynradd.[12] Cafwyd bod syndrom Asperger ganddo pan oedd yn 13 oed. Ym mis Hydref 2006 derbynodd presgripsiwn am gyffuriau gwrthiselder Celexa a therapi ymddygiadol i drin anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Cafodd y driniaeth ei chwestiynu gan ei fam, a pheidiodd Adam gymryd y feddyginiaeth a mynychu'r therapi ar ôl pedwar sesiwn.[13] Mewn cyfweliad yn 2013, awgrymodd Peter Lanza yr oedd gan ei fab sgitsoffrenia yn ogystal â'i afiechydon eraill.[10][14][15][16][17] Mae'n debyg roedd yn dioddef anorecsia pan oedd yn ei arddegau. Yn ôl cofnod meddygol o Chwefror 2008, roedd ganddo daldra o 5'10" ac yn pwyso 112 o bwysau.[18] Pan fu farw, roedd yn dioddef o ddiffyg maeth a niwed felly i'w ymennydd, yn 6' o daldra a 112 o bwysau.[19]
Yn ôl ei chwaer-yng-nghyfraith, "selogyn gynnau" oedd Nancy Lanza ac yn berchen ar ddeuddeg o ddrylliau o leiaf.[20][21][22][23] Roedd yn aml yn hebrwng ei meibion i'r maes saethu lleol a'u addysgu i saethu.[24][25] Roedd Nancy Lanza wedi prynu reiffl o galibr .22, AR-15, a nifer o arfau eraill yn y blynyddoedd cyn y cyflafan.[26] Roedd gan Adam ddiddordeb yn nhorflofruddiaethau, gan gynnwys cyflafanau Ysgol Uwchradd Columbine a Phrifysgol Gogledd Illinois. Arddangosodd Adam ymddygiadau gwrthgymdeithasol a rhyfedd,[27] ond ni chredai ei dad Peter roedd Nancy yn ofni ei mab.[14]
Y drosedd
golyguSaethodd Adam Lanza ei fam Nancy pedair gwaith yn ei phen gyda'r reiffl .22 a'i lladd. Cyn iddo adael y tŷ, dinistriodd Adam disgyrrwr caled ei gyfrifiadur. Casglodd ei arfau a gyrrodd yng nghar ei fam i Ysgol Gynradd Sandy Hook, ysgol gyhoeddus i blant o'r dosbarth meithrin i'r pedwerydd dosbarth. Teithiodd Adam i'r ysgol gyda'r AR-15, dau bistol lled-awtomatig, dryll pelets, a channoedd o rowndiau o fwledi. Cyrhaeddodd yr ysgol tua 9:30 y bore, a gadawodd y dryll pelets yn y car. Roedd drws yr ysgol ar glo, ond saethodd Lanza ffenestr i ddringo mewn i'r ysgol. Cafodd ei gwrdd yn y coridor gan y brifathrawes, Dawn Hochsprung, a seicolegydd yr ysgol, Mary Sherlach, a'r athrawes Natalie Hammond. Saethwyd y tair ohonynt, a bu farw Hochsprung a Sherlach. Llwyddodd Hammond i lusgo'i hunan i'r gynadleddfa. Tua 9:35, derbynodd y gwasanaethau brys y galwad ffôn cyntaf o'r ysgol.
Cafodd sŵn taniadau'r gwn ei glywed gan yr holl ystafelloedd dosbarth drwy'r system sain. Dechreuodd yr athrawon ddiogelu'r plant yn unol â'r drefn argyfwng a ymarferid ynghynt. Cafodd plant eu cuddio mewn cypyrddau a'r tai bach, a chafodd drysau eu rhwystro gyda dodrefn neu gan yr athrawon eu hunain. Cerddodd Lanza i mewn i ystafell yr athrawes Lauren Rousseau gan ladd hi a 14 o blant. Yn yr ail ystafell, roedd yr athrawes Victoria Soto wedi cuddio'i disgyblion mewn cwpwrdd. Dywedodd Soto i Lanza roedd ei dosbarth hi yn y neuadd ar ochr draw'r adeilad. Saethodd Soto, a chwe phlentyn a geisiodd ffoi o'r guddfan. Llofruddiodd hefyd y cynorthwywraig anghenion arbennig Anne Marie Murphy, a'r therapydd ymddygiad Rachel D’Avino. Aeth y heddweision cyntaf i mewn i'r ysgol a gwelant unigolyn yn gwisgo dillad tywyll. Am 9:40, clywodd y taniad olaf pan wnaeth Lanza ladd ei hun gyda phistol. Canfuwyd ei gorff ger drws ystafell Victoria Soto.
Danfonwyd nifer mawr o heddweision lleol a thaleithiol i'r ysgol i ymchwilio i fangre'r drosedd. Wrth gynnal awtopsïau ar gyrff y meirw, dangoswyd i bob un ohonynt gael eu saethu mwy nag unwaith.
Ymateb
golyguCafodd y drychineb hon effaith sylweddol ar y cyhoedd Americanaidd, yn enwedig oherwydd oedran y meirw.
Cynhaliwyd munud o dawelwch ar draws yr Unol Daleithiau ar 21 Rhagfyr 2012 er cof am feirw Sandy Hook.[28]
Y ddadl dros ddrylliau
golyguYn debyg i nifer o gyflafanau drylliau eraill yn hanes yr Unol Daleithiau, cododd ddadl dros ddeddfau ar reoli drylliau yn sgil y drychineb. Galwodd Dan Malloy, Llywodraethwr Connecticut, am ddeddfwriaeth lymach i reoli drylliau ar lefel genedlaethol.[29]
Canolbwyntiodd y dadleuon o blaid rheoli drylliau ar yr AR-15, fersiwn lled-awtomatig o'r reiffl ymosodol filwrol M16, a'r storgelloedd 30-rownd.[26]
Yn y dyddiau wedi'r cyflafan, datganodd yr Arlywydd Barack Obama y byddai’n "gwneud popeth yn ei allu" i geisio osgoi trychineb arall o’r fath[30] ac addawodd cyflwyno deddfwriaeth i dynhau'r rheolau ynglŷn ag arfau erbyn mis Ionawr 2013.[31] Ceisiodd nifer o wleidyddion ail-gyflwyno'r Gwaharddiad Ffederal ar Arfau Ymosodol, adran o Ddeddf Rheoli Tor-cyfraith Tresigar a Gorfodi'r Gyfraith 1994 aeth yn ddi-rym yn 2004.
Ymatebodd y Gymdeithas Reiffl Genedlaethol (NRA) drwy feio gemau fideo a ffilmiau arswyd, a galwodd am warchodwyr arfog ym mhob ysgol yn yr Unol Daleithiau.[32] Yn yr wythnosau wedi'r lladdfa, bu mwy a mwy o Americanwyr yn prynu gynnau pwerus, gan ddisgwyl y bydd deddfau newydd yn cyfyngu ar y rheiny. Fel rheol, mae cynnydd mewn gwerthiant drylliau yn digwydd ar ôl pob trychineb o'r fath yn yr Unol Daleithiau, ond yn ôl ffigurau o nifer o daleithiau prynwyd mwy nag erioed o ynnau yn sgil cyflafan Newtown. Bu rhieni hefyd yn prynu bagiau ysgol sy'n gallu gwrthsefyll bwledi.[28]
Ymateb rhyngwladol
golyguRoedd newyddion y cyflafan yn stori fawr mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Japan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, a'r Deyrnas Unedig.[33] Anfonodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, lythyr ar yr Arlywydd Obama i fynegi cydymdeimlad ar ran pobl Cymru.[34] Yn y cyfnod rhwng y cyflafan a'r Nadolig, danfonwyd degau o filoedd o deganau i blant Sandy Hook gan bobl ar draws y byd.[35]
Cefnogwyd y mudiad rheoli drylliau gan leisiau ar draws y byd, gan gynnwys Rowan Williams, Archesgob Caergaint, a ddywedodd: "Mae pobl yn defnyddio gynnau, ond mae gynnau yn defnyddio pobl hefyd. Pan mae technoleg dreisgar ar gael mor rhwydd, mae'n bosib i ninnau gael ein cyflyru i ymddwyn yn dreisgar. Pan mai gwn yw'r unig beth sydd gyda chi, mae popeth arall yn edrych fel targed."[36]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Adam Lanza: Profile of suspected US school shooting gunman. BBC (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Halbfinger, David M (December 14, 2012). "A Gunman, Recalled as Intelligent and Shy, Who Left Few Footprints in Life". The New York Times. Cyrchwyd December 14, 2012.
- ↑ (Saesneg) Holly Yan (16 Rhagfyr 2012). Connecticut massacre suspect Adam Lanza was a 'nice kid,' some say. CNN. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ Llanos, Miguel (December 14, 2012). "Authorities ID gunman who killed 27 in elementary school massacre". NBC News. Associated Press. Cyrchwyd December 14, 2012.
- ↑ Misur, Susan; Carter, Angi; Smith, Jenn (December 14, 2012). "Adam Lanza's family seemed like normal family, neighbors say". The Evening Sun. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-18. Cyrchwyd December 15, 2012.
- ↑ Yost, Pete; Keyser, Jason (December 14, 2012). "Connecticut shooting suspect was honors student". Boston Globe. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-19. Cyrchwyd December 15, 2012.
- ↑ Stoller, Gary; Dorell, Oren (December 18, 2012). "Sandy Hook killer was a former student at school". USA Today. Cyrchwyd December 18, 2012.
- ↑ Miller, John (December 16, 2012). "The Brief, Enigmatic Life of Mass-Murderer Adam Lanza". Anchorage, Alaska: KTVA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-20. Cyrchwyd December 19, 2012.
- ↑ Yost, Pete; Keyser, Jason (December 15, 2012). "Correction: Conn school shooting-suspect story". NPR. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 15, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ 10.0 10.1 "Raising Adam Lanza". Frontline. PBS. February 19, 2013. Cyrchwyd December 11, 2013.
- ↑ 11.0 11.1 "Adam Lanza Took Western Connecticut State University Courses When He Was 16". Huffington Post. December 17, 2012. Cyrchwyd December 19, 2012.
- ↑ "Newtown Shooter Lanza Had Sensory Processing Disorder". ABC News. Cyrchwyd February 20, 2013.
- ↑ "Sandy Hook shooter treated at Yale". Yale Daily News. January 22, 2014. Cyrchwyd June 23, 2014.
- ↑ 14.0 14.1 "The Reckoning". The New Yorker. New Yorker. March 17, 2014. Cyrchwyd March 10, 2014.
- ↑ Falco, Miriam (December 17, 2012). "Groups: Autism not to blame for violence". CNN. Cyrchwyd December 17, 2012.
- ↑ Goodwin, Liz (February 19, 2013). "New photos, details emerge of Newtown mass shooter Adam Lanza | The Lookout". Yahoo! News. Cyrchwyd February 19, 2013.
- ↑ "Adam Lanza Diagnosed With Sensory Integration Disorder | Video". ABC News. February 18, 2013. Cyrchwyd February 19, 2013.
- ↑ Shooting at Sandy Hook Elementary School (Adroddiad). 21 Tachwedd 2014. p. 71. http://www.ct.gov/oca/lib/oca/sandyhook11212014.pdf. Adalwyd 28 Tachwedd 2014. "The record notes that he was 112 pounds and almost 5 feet, 10 inches tall, suggesting possible anorexia at this time."
- ↑ Shooting at Sandy Hook Elementary School (Adroddiad). 21 Tachwedd 2014. p. 8. http://www.ct.gov/oca/lib/oca/sandyhook11212014.pdf. Adalwyd 28 Tachwedd 2014. "AL was anorexic at the time of death, measuring 6 feet tall and weighing only 112 pounds."
- ↑ "Friends: Newtown gunman's mother home-schooled son, kept arsenal of guns". CBS News. December 16, 2012.
- ↑ Bankoff, Caroline (December 2012). "Newtown Shooter Adam Lanza's Mother Was an Avid Gun Collector". New York. Cyrchwyd December 16, 2012.
- ↑ "Investigators look for insight into Newtown gunman's mind". CBS News. Associated Press. December 14, 2012.
- ↑ Goodwin, Liz (December 19, 2012). "Survivalists worry 'preppers' will be scapegoated for Newtown shooting". Yahoo! News. Cyrchwyd December 19, 2012.
- ↑ Alexander, Harriet; Barrett, David; Donnelly, Laura; Swaine, Jon (December 15, 2012). "Connecticut school shooting: Troubled life of Adam Lanza, a fiercely intelligent killer". The Daily Telegraph. London.
- ↑ Lysiak, Matthew; Slattery, Dennis; Siemaszko, Corky (December 15, 2012). "Newtown, Conn. shooting: Sandy Hook elementary school gunman Adam Lanza learned to shoot from his gun-collecting mom". Daily News. New York. Cyrchwyd December 15, 2012.
- ↑ 26.0 26.1 (Saesneg) Newtown shootings of 2012. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
- ↑ "Sandy Hook killer Adam Lanza took motive to his grave". CNN. November 26, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 18, 2013. Cyrchwyd December 29, 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ 28.0 28.1 Munud o dawelwch i gofio’r plant, Golwg360 (21 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Newtown shootings: Connecticut's Malloy urges gun control. BBC (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ Obama: ‘Rhaid i America newid i ddiogelu ei phlant’, Golwg360 (17 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
- ↑ Obama: Cynlluniau i dynhau rheolau gynnau erbyn mis Ionawr, Golwg360 (20 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) David Nakamura a Tom Hamburger. Put armed police in every school, NRA urges, The Washington Post (21 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
- ↑ Saethu Connecticut – y byd yn cydymdeimlo. Golwg360 (15 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ Carwyn yn anfon llythyr o gydymdeimlad at Obama. Golwg360 (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ Plant Sandy Hook yn denu sylw’r byd i gyd, Golwg360 (23 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
- ↑ Archesgob – “angen rheoli gynnau”, Golwg360 (22 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.