Brwydr Saint-Aubin-du-Cormier (1488)
(Ailgyfeiriad o Saint-Aubin-du-Cormier (1488))
Ar 28 Gorffennaf 1488 ymladdwyd Brwydr Saint-Aubin-du-Cormier (1488) rhwng Francis II, Dug Llydaw a Louis XI, brenin Ffrainc. Dyma Gilmeri'r Llydawr. Trechwyd Francis a throsglwyddwyd ei unig ferch Anna, Duges Llydaw i Frenin Ffrainc i'w phriodi yn ôl ei fympwy. Rhoddodd hi i'w fab Siarl VIII.
Dywedodd Leon Meur, "Brwydr Saint-Aubin oedd cnul marwolaeth Llydaw Rydd." Yn 2001, bu'n rhaid i awdurdodau yn Llydaw roi'i gorau i'w cynlluniau i gladdu sbwriel ar y safle oherwydd maint y brotest yn erbyn gwneud hyn gan genedlaetholwyr Llydewig.[1]
Delweddau
golygu-
Lleoliad maes y gad.
-
Arfbais Francis II, Dug Llydaw