Cilmeri

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cilmeri[1] (Saesneg: Cilmery).[2] Fe'i lleolir ar y briffordd A483 tua 2 filltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt ar lan ogleddol Afon Irfon. Mae Trafnidiaeth Cymru yn galw yng Ngorsaf reilffordd Cilmeri sydd ar llinell Rheilffordd Calon Cymru.

Cilmeri
Carreg goffa Llywelyn Ein Llyw Olaf yng Nghilmeri
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCilmeri Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1506°N 3.4571°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Erthygl am y pentref a chymuned yw hon. Am ystyron eraill, gweler Cilmeri (gwahaniaethu).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]


Llywelyn Ein Llyw Olaf golygu

Mae Cilmeri hefyd yn enw ar lecyn gerllaw'r pentref lle lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ar 11 Rhagfyr 1282, sef ychydig islaw'r garreg a'r rhyd sy'n croesi Afon Irfon. Codwyd cofeb i'r tywysog yn 1956 gan wladgarwyr Cymreig i gofio amdano. Ers hynny mae'r gofeb yn denu nifer o ymwelwyr ar 11 Rhagfyr, Diwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf, i dalu teyrnged i Lywelyn. Cofnodwyd yn wreiddiol mai cynllwyn dan-din gan y Saeson a arweiniodd at ei gwymp, ei fod wedi dod at y rhyd i drafod termau heddwch, ar ei ben ei hun, fel a gytunwyd. Ond ni chadwodd y fyddin Seisnig at ei gair, ac roedd nifer ohonynt yn ei ddisgwyl.

Cilmeri yw enw ar awdl a chyfrol o gerddi nodedig gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen (Cilmeri a Cherddi Eraill, Gwasg Gwynedd, 1991).

Coffâd Blynyddol golygu

Ar y dydd Sadwrn agosaf at yr 11 Rhagfyr pob blwyddyn cynhelir coffâd i Llywelyn yng Nghilmeri. Yn ystod y penwythnos cynhelir cwrdd yn eglwys hynafol Llanynys, gorymdaith o dafarn y Prince Llywelyn at y maen coffa, a coffâd ger y maen[5]. Cynhelir digwyddiadau eraill yn Aberedw ac yn Abaty Cwmhir ar y dydd Sul. Ceir manylion y digwyddiadau a'r amserlen yn flynyddol ar wefan Gurfal Archifwyd 2017-05-29 yn y Peiriant Wayback..

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cilmeri (pob oed) (431)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cilmeri) (51)
  
12.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cilmeri) (221)
  
51.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cilmeri) (78)
  
38.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Henebion golygu

Saif hen domen a beili Caer Beris rhwng y pentref a Llanfair-ym-Muallt. Yma hefyd ceir Crug Crwn Gwaun Neli.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Tachwedd 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Gwefan Gurfal Archifwyd 2017-05-29 yn y Peiriant Wayback.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]